Ceisio adborth ar opsiynau rheoli perygl llifogydd yn Aberdulais
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ceisio adborth ar opsiynau rheoli perygl llifogydd ar gyfer Aberdulais, Castell-nedd.
Mae model hydrolig newydd, sy'n edrych yn fanwl ar y perygl llifogydd hirdymor yn yr ardal, wedi'i gwblhau. Mae mapiau a gwybodaeth bellach ar gael ar-lein ac rydym yn annog pobl o'r ardal i roi adborth ar yr opsiynau a gyflwynir.
Mae'r gofod rhithiol yn cyflwyno llinell sylfaen y model, yn rhedeg trwy'r broses o werthuso opsiynau ac yn caniatáu lle i bobl ddarparu eu hadborth, gan gynnwys awgrymiadau o ran opsiynau amgen.
Mae cymuned Aberdulais wedi dioddef llifogydd sawl gwaith yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, lle mae cartrefi a busnesau wedi profi llifogydd mewnol. Roedd yr achos diweddaraf yn ystod Storm Dennis yn 2020 pan aeth llifogydd i mewn i 27 eiddo.
Ers hynny, mae rhan o’r llwybr troed ar hyd Afon Nedd wedi’i chodi i leihau’r perygl o lifogydd ar gyfer y llwybr a gosodwyd mesurau Gallu Eiddo i Wrthsefyll Llifogydd mewn 30 eiddo preswyl.
Dywedodd Merrissa Fallas, Swyddog Cyflawni Prosiectau a Rhaglenni ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith i ddiweddaru'r modelu hydrolig ar gyfer Aberdulais.
“Fe wnaethon ni gynnal sesiwn galw heibio brysur yn Aberdulais cyn y Nadolig, ond rydym yn awyddus i rannu'r model newydd a'r opsiynau lliniaru perygl llifogydd a allai helpu i adeiladu gwytnwch yn yr ardal yn ehangach.
“Er ein bod yn glir na allwn atal llifogydd yn Aberdulais yn ystod digwyddiadau tywydd eithafol, rydym wedi datblygu opsiynau a allai o bosib leihau lefelau llifddwr ac felly leihau effaith llifogydd.
“Rwy'n annog pobl i edrych ar yr opsiynau ar-lein a rhoi adborth. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i'n helpu i ddatblygu ein camau nesaf.”
Mae model hydrolig Aberdulais yn edrych yn fanwl ar y perygl llifogydd hirdymor yn yr ardal, gyda'r perygl llifogydd yn gyfuniad o debygolrwydd a chanlyniadau posibl llifogydd.
Mae'r model wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'n gywir y llif afonol a'i lwybr yn y gymuned yn ystod digwyddiad llifogydd. Mae'r model wedi'i galibradu gan ddefnyddio digwyddiadau storm diweddar.
Mae'r model yn dangos nad yw'n bosib gwella effaith llifddwr ar barth llifogydd yn ystod digwyddiad risg uchel heb achosi niwed i barth cyfagos. Fodd bynnag, efallai y bydd yn bosibl lleihau effaith llifogydd o fewn y gymuned yn ystod digwyddiad risg is.
Mae'r opsiynau rheoli llifogydd canlynol a nodwyd ar gyfer Aberdulais wedi'u rhoi ar brawf gyda'r model hydrolig newydd.
Cael Gwared ar y Ddyfrbont yn Llwyr — cynyddu cludiad dŵr yn y sianel drwy gael gwared ar y ddyfrbont yn llwyr
Cael Gwared ar Ran o’r Ddyfrbont — cynyddu cludiad dŵr yn y sianel drwy gael gwared ar ran o’r ddyfrbont
Codi Glannau Afon Nedd / Mur Llifogydd — codi glannau yn ardal yr astudiaeth i un safon uchel o ddiogelwch
Cael Gwared ar y Gored — cynyddu cludiad dŵr yn y sianel trwy gael gwared ar y gored
Wal yn Ochr y Gamlas gyda Chludiad Llifddwr yn y Gamlas — adeiladu wal o flaen teras Ochr y Gamlas, gyda Chamlas Tennant yn derbyn y gorlifoedd o Afon Nedd
Storio i Fyny'r Afon - cronni dŵr i fyny'r afon i reoli anterth y llif
Ychwanegodd Merrissa:
“Ar ôl ceisio adborth, bydd tîm y prosiect yn dechrau datblygu achos busnes amlinellol, a fydd yn ystyried ffactorau technegol, amgylcheddol, cymdeithasol a chost. Bydd yr holl opsiynau hyfyw yn cael eu rhoi ar restr fer a byddwn yn craffu arnynt ymhellach.
“Os oes opsiwn a ffefrir sy’n hyfyw, byddwn yn ei argymell ac yn gofyn am adborth gan y gymuned leol.”
Mae gan aelodau'r gymuned tan hanner nos ddydd Llun, Chwefror 26 i roi adborth ar yr opsiynau hyn. Yna bydd tîm y prosiect yn symud ymlaen i gam dau datblygu achos busnes amlinellol.
I weld y wybodaeth yn fanylach a rhoi adborth ewch i: https://bit.ly/AberdulaisCYM