Tanau yn achosi gwerth £100k o ddifrod yng Nghoedwigoedd Dyffryn Afan a Blaendulais
Mae pum tân a gafodd eu cynnau mewn rhannau o goedwigoedd Dyffryn Afan a Blaendulais wedi achosi gwerth mwy na £100k o ddifrod.
Mae’r tanau wedi dinistrio bron i 140 hectar o goedwigoedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym Mhenhydd, Ynyscorrwg, Glyncorrwg, Abercregan a Blaendulais, gan gynnws 80,000 o goed newydd eu plannu.
Ar adeg o gyfyngiadau symud oherwydd pandemig y coronofeirws, roedd yn rhaid i swyddogion tân ac achub beryglu eu bywydau er mwyn diffodd y tanau.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i dri o’r pum tân fel achosion o losgi bwriadol, sef y tân ym Mhenhydd ddydd Mawrth, 31 Mawrth, a’r tanau yn Abercregan a Blaendulais ddydd Sul, 5 Ebrill.
Digwyddodd y tân yn Ynyscorrwg ddydd Mercher 25 Mawrth a’r tân yn Nglyncorrwg ddydd Mawrth 31 Mawrth.
Mae swyddogion CNC yn gweithio er mwyn darganfod maint y difrod achoswyd, yn ogystal â’r effaith ar yr amgylchedd.
Dywedodd James Roseblade, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Nid yn unig y mae’r tanau hyn wedi achosi colled ariannol enfawr i CNC, ond byddant hefyd wedi cael effaith ar yr amgylchedd, gan ladd bywyd gwyllt a llygru’r aer a’r dŵr.
“Ar adeg lle mae gofyn i ni gadw at reolau’r llywodraeth ynghylch aros gartref a chadw pellter cymdeithasol, rwy’n ymbil ar bobl i ystyried yr effaith y gallai cynnau tanau ei chael ar fywydau pobl eraill a’r amgylchedd.
“Ystyriwch beth sydd yn angenrheidiol yn ystod y cyfnod hwn. Y peth pwysicaf yw aros gartref. Ond hefyd, nid yw coelcerth yn yr ardd yn angenrheidiol a gall yn hawdd fynd allan o reolaeth, gan roi pwysau diangen ar y gwasanaethau brys.
“Mae CNC yn gweithio gyda’r gwasanaethau tân ac achub, yr heddlu a phartneriaid eraill trwy Ymgyrch Dawns Glaw er mwyn atal tanau o’r math hwn, ac mi fyddwn yn erfyn ar y cyhoedd i gysylltu â’r heddlu trwy alw 101 os ydynt yn sylwi ar unrhyw ymddygiad amheus.”
Dywedodd Richie Vaughan-Williams, Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:
“Mae cynnau tanau yn fwriadol yn anghyfreithlon ac anghyfrifol. I weithredu pan fo tanau gwyllt, mae sawl criw yn gorfod gweithio’n galed gyda’i gilydd a rhannu offer – a hynny ar dir garw. Mae hyn yn peri pryder ar adeg lle mae ymdrech arbennig i weithredu gweithdrefnau cadw pellter cymdeithasol er mwyn diogelu’r criwiau hynny. Hoffem apelio atoch i’n cynorthwyo ni a’r gwasanaethau angenrheidiol eraill i atal y digwyddiadau hyn.”
Dywedodd Prif Arolygydd Diogelwch Cymunedol Heddlu De Cymru, Declan Cahill:
“Yn aml mae tanau fel y rhain yn cael eu cynnau gan bobl ifanc, ac rwy’n gofyn am gefnogaeth rhieni a gwarcheidwaid a ddylai wybod ble yn union mae eu plant, a beth maent yn ei wneud, yn enwedig ar adeg pan mae symudiadau pawb wedi’u cyfyngu.”
“Byddwn yn ymchwilio i adroddiadau o gynnau tanau bwriadol – ac fe allai’r rhai sy’n gyfrifol wynebu cael eu herlyn. Rwy’n erfyn ar blant a rhieni i gofio sut y gallai cofnod troseddol effeithio ar eu dyfodol. Yn y pen draw, gall y gweithredoedd hyn achosi marwolaeth, anafiadau difrifol a difrod d sylweddol i dir, eiddo a bywyd gwyllt.”
Oes gennych chi unrhyw wybodaeth ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am gynnau’r tanau coedwig hyn? Ffoniwch Heddlu De Cymru ar 101 os oes gennych unrhyw wybodaeth. Os am rannu gwybodaeth yn ddienw, yna ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.