Dechrau ar gam cyntaf gwaith adfer Afon Ogwen
Cyn bo hir bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn dechrau ar gam cyntaf prosiect ar y cyd i adfer Afon Ogwen a'i llednentydd.
Bydd y gwaith, sy’n cael ei ariannu drwy raglen Argyfwng Natur a Hinsawdd (NaCE) CNC, yn helpu i wella iechyd afonydd, creu cynefinoedd bywyd gwyllt newydd a gwneud lle i ddŵr yn y dirwedd.
Bydd cam cyntaf y gwaith yn canolbwyntio ar Afon Cywion, llednant sy'n llifo islaw fferm Blaen y Nant yn Nant Ffrancon. Bydd y gwaith yn dechrau ddiwedd mis Chwefror 2026 a disgwylir iddo gymryd tua phythefnos i'w gwblhau.
Fel rhan o'r cam hwn, bydd deunydd sydd wedi cronni o weddillion a garthwyd o wely'r afon ar hyd Afon Cywion yn cael ei symud. Ar hyn o bryd mae'r dyddodion hyn yn gweithredu fel bwnd, ac yn rhwystro llif yr afon a'i datgysylltu oddi wrth ei gorlifdir naturiol. Bydd y deunydd yn cael ei storio gerllaw a'i ddefnyddio yng ngham nesaf y gwaith adfer.
Bydd rhan o’r wal gerrig ym mhen isaf Cae Twmffat, wrth ochr Afon Ogwen, hefyd yn cael ei datgymalu'n ofalus. Bydd cerrig y wal a adeiladwyd yn wreiddiol yn ystod cam cynharach o waith adfer, yn cael eu hailddefnyddio i godi waliau terfyn newydd o amgylch buarth y fferm - gan helpu i reoli'r da byw sy'n pori'r dyffryn a darparu'r cynefin sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig.
Mae'r gwaith hwn yn gam pwysig er mwyn helpu'r afon i lifo mewn ffordd fwy naturiol a deinamig. Bydd ailgysylltu'r afon â'i gorlifdir yn arafu llif y dŵr, gan leihau erydiad a’r risg o lifogydd i gymunedau a seilwaith i lawr yr afon. Bydd hefyd yn creu cynefin gwlyptir, yn adfer amgylcheddau graean afonydd agored, ac unwaith eto'n caniatáu cyflenwi a symudiad graean naturiol yn Afon Ogwen.
Bydd y gwelliannau hyn yn rhoi hwb i ardaloedd silio eogiaid a brithyllod môr ac yn creu amodau gwell ar gyfer adar sy'n ddibynnol ar afonydd fel bronwen y dŵr, pibydd y dorlan a glas y dorlan.
Meddai Sarah Aubrey, Uwch Swyddog Amgylchedd CNC:
“Mae’r prosiect hwn yn nodi cam cyntaf pwysig wrth ganiatáu i Afon Cywion ac Afon Ogwen ymddwyn yn fwy naturiol unwaith eto. Drwy wneud lle i ddŵr, gwella cynefinoedd ac adfer prosesau naturiol hanfodol, rydym yn helpu i greu system afonydd iachach a mwy gwydn ar gyfer bywyd gwyllt a phobl leol. Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac o fod yn cefnogi'r cam hwn drwy ein cyllid Natur a'r Argyfwng Hinsawdd.”
Meddai Dewi Davies, Rheolwr Prosiect, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
“Rydym yn adfer prosesau naturiol ac yn gwella cynefinoedd ym Mlaen y Nant fel bo’r dirwedd yn iachach ac yn well i natur yn y dyfodol. Mae hon yn fferm bwysig yr ydym yn bwriadu ei hail-osod yn fuan, a bydd cynefinoedd mwy gwydn yn ymblethu â model ffermio'r dyfodol.”