Pedwar dyn yn cael dirwy am gasglu cocos yn anghyfreithlon yng Nghilfach Tywyn
Cafodd pedwar dyn o Lanelli ddirwy o fwy na £36,000 ar ôl eu cael yn euog o gasglu cocos yn anghyfreithlon yng Nghilfach Tywyn, sy’n aber gwarchodedig yn Ne Cymru.
Lansiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymchwiliad ar ôl derbyn adroddiad am achos o gasglu cocos yn anghyfreithlon yng Nghilfach Tywyn yn Llanelli ar 12 Mehefin 2025.
Aeth swyddogion gorfodi CNC draw yno a chanfod bod Ethan Thomas, Brogan Phillips, Finley Harvey Jones o Lanelli a Korey Kathrens o Borth Tywyn wedi gyrru eu cerbydau 4x4 fwy nag un gilometr allan i'r aber i gasglu cocos heb ganiatâd.
Cafodd y grŵp eu dal wrth iddynt geisio gadael y safle. Yn ystod y digwyddiad, aeth dau o'u cerbydau yn sownd yn yr aber ac yn ddiweddarach bu’n rhaid eu tynnu oddi yno i ddiogelwch.
Atafaelodd y swyddogion nifer sylweddol o gocos ynghyd ag offer a ddefnyddiwyd i'w casglu.
Gwadodd y pedwar dyn y cyhuddiadau, ond yn dilyn treial yn Llys Ynadon Llanelli ar 23 Mawrth 2026, cafwyd pob un ohonynt yn euog o gynaeafu cocos yn anghyfreithlon yng Nghilfach Tywyn sy’n cael ei reoleiddio gan CNC.
Cafodd pob diffynnydd ddirwy o £4,000 a gorchymyn i dalu gordal dioddefwr o £1,600, ynghyd â chostau erlyniad o £3,546. Cyfanswm y gosb ariannol ar gyfer pob unigolyn oedd £9,146. Gosododd y llys delerau talu ar £200 y mis.
Meddai Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau De-orllewin Cymru CNC:
"Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at ddifrifoldeb casglu cocos yn anghyfreithlon, a all niweidio ecosystemau bregus a thanseilio pysgodfeydd trwyddedig sy'n gweithredu o fewn yr aber.
"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu ein pysgodfeydd cregyn a'n pysgodfeydd ehangach rhag gweithgarwch anghyfreithlon.
"Rydym yn croesawu penderfyniad y llys yn yr achos hwn ac yn gobeithio y bydd yn anfon neges glir na fydd troseddau pysgodfeydd a physgod cregyn yn cael eu goddef ac yn cael eu cosbi ac y byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi priodol yn erbyn y rhai sy'n torri'r gyfraith."