Tystiolaeth newydd yn dangos bod modd adfer Afon Gwy wrth weithredu ar draws y dalgylch

Mae dau adroddiad newydd yn nodi tystiolaeth ffres ar agweddau allweddol ar ecoleg Afon Gwy, gan dynnu sylw at bwysau parhaus a chyfleoedd clir i wella cyflwr yr afon.

Mae'r adroddiadau'n tynnu sylw at y ffaith bod gwelliant yn bosibl, er gwaethaf y pwysau mae'r afon yn eu hwynebu. Mae llawer o'r nodweddion a gafodd eu harchwilio yn yr adroddiadau eisoes yn agos at gyrraedd eu targedau, a gallai newidiadau cynyddol ar draws y dalgylch arwain at enillion ehangach.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr adroddiadau i gryfhau’r ddealltwriaeth o iechyd y brif afon a'i phrif lednentydd. Mae un yn canolbwyntio ar ddangosyddion biolegol fel algâu meicrosgopig ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn y dŵr, sy'n adlewyrchu ansawdd dŵr yr afon. Mae'r ail yn cyflwyno arolygon manwl seiliedig ar safleoedd, o gynefinoedd a chymunedau planhigion. Gyda'i gilydd, mae'r adroddiadau'n ychwanegu dyfnder at y sylfaen dystiolaeth ac yn helpu i nodi ble mae pwysau ar waith.

O'r rhannau o’r afon a gafodd eu hasesu, mae’r canfyddiadau’n dangos bod llawer ohonyn nhw heb fodloni'r ansawdd ecolegol uchel sy’n ddisgwyliedig o afon mewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau hefyd yn dangos bod nifer o rannau yn bodloni'r safonau hyn, a bod llawer o rai eraill yn agos at hynny, gan gyflawni statws "da" yn hytrach na'r statws "uchel" gofynnol.

Mae'r dystiolaeth fiolegol yn tynnu sylw at bwysau o ran maetholion ar draws y dalgylch, ond yn gyffredinol ar lefelau lle mae cymunedau ecolegol yn parhau i fod yn gyfan. Mae'r arolygon cynefinoedd yn nodi amrywiaeth o ffactorau sy'n dylanwadu ar gyflwr yr afon, gan gynnwys addasu sianeli yn y gorffennol, gwaddod yn mynd i mewn i'r system, colli llystyfiant naturiol ar lan yr afon a lledaeniad rhywogaethau goresgynnol. Mae'r ddau adroddiad hefyd yn dangos patrwm clir ar hyd yr afon, gydag ardaloedd yn rhannau uchaf y dalgylch yn aml mewn cyflwr gwell nag ardaloedd yn y canol neu yn y rhannau isaf.

Ar draws y ddwy astudiaeth, yr hyn a ddaw i'r amlwg yw’r pwysau sy'n gyffredin ar draws y dalgylch, yn hytrach na phwysau sy’n deillio o ffynonellau ynysig. Mae'r adroddiadau hefyd yn tanlinellu'r cysylltiad rhwng ansawdd dŵr a chynefin ffisegol, sy’n awgrymu bod cynnydd yn dibynnu ar fynd i'r afael â'r ddau beth gyda'i gilydd.

Mae'r mesurau sydd eu hangen wedi'u deall yn dda; yr her yw eu cyflawni'n gyson, ac ar y raddfa angenrheidiol, ar draws y dalgylch cyfan.

Mae'r adroddiadau'n nodi camau ymarferol, gan gynnwys lleihau’r mewnbwn o faetholion o bob ffynhonnell, adfer glannau’r afon a lleiniau clustogi, gwella strwythur cynefinoedd a mynd i'r afael â gwaddod a rhywogaethau goresgynnol. Mae gwaith i fynd i'r afael â'r problemau hyn eisoes ar y gweill drwy Brosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf CNC.

Dywedodd Francesca Sanchez, Cynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer Cynefinoedd a Rhywogaethau Dŵr Croyw:
“Mae’r adroddiadau hyn yn dangos bod Afon Gwy yn wynebu pwysau sylweddol, ond maen nhw hefyd yn dangos bod gwelliant yn bosibl. Mae'r rhan fwyaf o'r nodweddion sydd wedi’u hasesu naill ai eisoes yn bodloni'r safon gofynnol neu mewn cyflwr da ac yn agos at gyflawni'r safon uchaf, sy’n ddisgwyliedig o Ardal Cadwraeth Arbennig.
“Mae hynny’n awgrymu’n glir i ni y gall y camau cywir, wedi’u cyflawni’n gyson ac ar y raddfa briodol, wneud gwahaniaeth go iawn.”

Mae'r adroddiadau hyn yn ffurfio rhannau cyfansawdd o raglen ehangach o dystiolaeth a fydd yn cyfrannu at asesiad llawn o gyflwr Afon Gwy, ochr yn ochr â llinynnau gwaith eraill fydd yn llunio darlun cyflawn ac arwain camau gweithredu yn y dyfodol i adfer a gwarchod yr afon.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru