Angen camau pellach i amddiffyn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru

Mae asesiadau manwl newydd o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru yn dangos pa gynefinoedd a rhywogaethau sy'n ffynnu yn nyfroedd Cymru, ond maent yn tynnu sylw at yr angen am fwy o weithredu i wella cynefinoedd, bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae cyfanswm o 85 o nodweddion dynodedig ar draws 17 o ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA) ac ardaloedd gwarchodaeth arbennig (AGA) morol wedi cael eu hasesu i benderfynu a yw eu hamcanion cadwraeth yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn cwmpasu 37% o rwydwaith ardal forol warchodedig Cymru.

Mae'r nodweddion hyn yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau a chynefinoedd prin a gwarchodedig, fel morloi llwyd, llysywod pendoll y môr, dyfrgwn, banciau tywod, gwastadeddau llaid, riffiau a morfeydd heli.

Ymhlith yr amcanion cadwraeth mae targedau ar gyfer ansawdd dŵr, sy'n gysylltiedig â dosbarthiadau Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, a gyhoeddwyd yn ddiweddar ym mis Mawrth.

Mae hyn yn dangos bod llygredd maetholion, ar ffurf nitrogen anorganig toddedig, yn un o'r prif resymau bod nodweddion rhai safleoedd mewn cyflwr anffafriol.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, dyma'r tro cyntaf i dystiolaeth ar y raddfa hon gael ei chasglu ar gyflwr amgylchedd morol gwarchodedig Cymru ac mae'n un o'r adroddiadau mwyaf cynhwysfawr hyd yma ar gyflwr ardaloedd morol gwarchodedig yn Ewrop.

Nid yw safleoedd morol trawsffiniol wedi'u cynnwys ar hyn o bryd, ond byddant yn cael eu hasesu ar y cyd â Natural England a'r JNCC dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae'r wybodaeth hon yn rhoi'r dystiolaeth sydd ei hangen i wella cyflwr ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru.

Mae deuddeg pecyn cyngor cadwraeth newydd hefyd wedi'u datblygu gan ddefnyddio gwybodaeth o'r asesiadau cyflwr. Bydd y cyngor manwl a phenodol hwn yn cefnogi ac yn gwella rheolaeth gynaliadwy o'r safleoedd pwysig hyn gan CNC a sefydliadau partner.

Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Rheoli Adnoddau Naturiol o CNC:
“Yn ogystal â bod yn gartref i rai o gynefinoedd a rhywogaethau mwyaf unigryw a bregus Cymru, mae ein hardaloedd arfordirol yn cael eu trysori gan gymunedau lleol ac maent yn gyfrannwr pwysig i economi Cymru trwy dwristiaeth a hamdden.
“Mae llawer iawn o wybodaeth ac arbenigedd wedi’i ddefnyddio i gynhyrchu tystiolaeth mor gynhwysfawr am gyflwr ein hardaloedd morol gwarchodedig – bydd hyn nawr yn darparu llinell sylfaen bwysig i ni fonitro cynnydd.
“Mae hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at flaenoriaethu’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella iechyd hirdymor ein hamgylchedd morol.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae llawer o ffocws wedi bod ar iechyd ein afonydd SAC a gweithredu ar raddfa i yrru'r gwelliannau mawr eu hangen ar ansawdd dŵr. Tra bod y gwaith hwn yn parhau, mae'n rhaid i ni nawr hefyd ganolbwyntio ein sylw ar y camau sydd eu hangen i wella iechyd y bywyd gwyllt, cynefin ac ansawdd dŵr yn ein hamgylchedd morol."

Mae canlyniadau'r asesiadau cyflwr eisoes wedi cael eu defnyddio ar gyfer adroddiadau ar lefel genedlaethol yn ogystal ag i lywio prosiectau ymchwilio i pam yn union mae elfennau o'n rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yn methu.

Mae'r asesiadau cyflwr llawn a'r pecynnau cyngor cadwraeth ar gael i'w gweld ar wefan CNC.