Cynllunio am gynnydd adfer mawndir

Mae cynllun uchelgeisiol i gefnogi adferiad mawndiroedd yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf wedi cael ei gyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Ddiwrnod y Pridd y Byd (5/12/25).

Mae cynllun Adfer Mawndir Cymru ar gyfer 2025-2030 yn arwyddocaol am yr uchelgais i uwchraddio targedau adfer. Dan arweiniad y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, y bwriad yw symud yn gynt gyda phartneriaid i ddiogelu'r pridd unigryw hwn sy'n rhoi cymaint. 

Meddai Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: “O ystyried yr holl egni sydd wedi’i roi i ragori ar dargedau’r pum mlynedd cyntaf, rwy’n hyderus y gall y partneriaid hyn gyflawni targedau hyd yn oed yn uwch yn y pum mlynedd nesaf. Erbyn 2030 rydym yn gobeithio treblu cyfradd adfer mawndiroedd drwy adfer 1800ha yn flynyddol.”

 

Eglurodd Mannon Lewis, arweinydd Prosiectau Strategol CNC ar gyfer y Rhaglen mawndir: “Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth hanfodol Llywodraeth Cymru wrth uwchraddio’r targedau. Mae cynllun Adfer Mawndir Cymru 2025-2030 yn golygu uwchraddio’r gwaith cyflawni ac ystod y camau ategol. Byddwn yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd ac yn adfer mwy o fawndir, gan gynnwys trwy gynyddu cyllid i bartneriaid. Mae hyn yn golygu y byddwn hefyd yn cynyddu'r capasiti ar gyfer swyddi gwyrdd a chontractio, mireinio'r gwaith monitro a'r dystiolaeth, ac yn parhau i rannu arbenigedd mawndir gyda llunwyr polisi ac ym maes cynllunio. Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth gyhoeddus i adfer mawndiroedd a gawsom eisoes a byddwn yn parhau i adrodd yn gyhoeddus ar ddata manylach fyth drwy Fap Data Mawndiroedd Cymru.”

Mae mawndiroedd yn unigryw yn eu bioamrywiaeth, ac yn arbennig o werthfawr oherwydd eu bod yn cadw 30% o'n carbon ar y tir er eu bod yn gorchuddio 4% o Gymru yn unig. Ac eto, er mwyn cefnogi cenedlaethau'r dyfodol, mae angen gwarchod ac adfer yr ased gwerthfawr hwn ar frys. Ar hyn o bryd mae 90% o fawndir Cymru wedi’i ddifrodi ac yn y cyflwr hwn mae’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at newid hinsawdd. Dyma pam mae rôl y Rhaglen, a sefydlwyd i ddechrau gan Lywodraeth Cymru a CNC fel Rhaglen pum mlynedd, yn ehangu. Y nod yw gwneud y gorau o enillion adfer mawndiroedd wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau Natur a'r Hinsawdd, yn ogystal â gwella gwydnwch i berygl llifogydd a thân ar y dirwedd. Gan weithio mewn partneriaeth, ac adeiladu ar y profiad a gafwyd dros bum mlynedd wrth adfer 3600ha, bydd y pum mlynedd nesaf yn gweld cam trawsnewidiol o ran uchelgais, graddfa a chydweithio ar gyfer y Rhaglen.

Ar hyn o bryd mae Grant Adfer Mawndir cystadleuol (£10mil-£250mil) ar gael i dirfeddianwyr preifat a sefydliadau cyhoeddus/gwirfoddol fel ei gilydd, ar gyfer datblygu neu adfer mawndir. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Ionawr 2026, ac mae gweminar canllawiau ar gael ar-lein i ymgeiswyr posibl.

Mae gwybodaeth am y gwaith a ariennir drwy’r Rhaglen ar gael i’r cyhoedd drwy Fap Mawndiroedd Cymru, ac mae enghreifftiau o’r 100 a mwy o gamau gweithredu posibl i’w gweld yn nhermiadur gwaith mawndiroedd y Rhaglen. Mae'r fideos cyflwyniadol byr, 'Mawndiroedd Cymru' a 'Mawndiroedd: y da, y drwg a doctoriaid ein mawndir', hefyd ar gael i'w gwylio ar-lein.

Mae rhagor o fanylion am adfer mawndiroedd yng Nghymru ar gael ar wefan RhWGF neu drwy e-bostio npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.