Peryglu bywyd gwyllt afonydd drwy dynnu graean yn anghyfreithlon
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Cyswllt Ffermio wedi dod at ei gilydd i atgoffa tirfeddianwyr i beidio â thynnu graean o nentydd ac afonydd, yn dilyn cynnydd yn yr adroddiadau am ddigwyddiadau o’r fath ledled Cymru.
Gall gwaith mewn afonydd, megis tynnu graean neu newid sianel, fod yn drosedd oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud o dan drwydded neu ganiatâd priodol.
Mae’r gweithrediadau hyn yn niweidio bywyd gwyllt, gan gynnwys infertebratau dyfrol, silfeydd pysgod ac adar sy’n nythu. Mae hefyd yn peri risg o wasgaru hadau/darnau o rywogaethau estron goresgynnol fel clymog Japan i leoliadau eraill a gall arwain at ddifrod i eiddo cyfagos oherwydd mwy o erydu neu ddyddodi.
Dim ond o dan rai amgylchiadau y caniateir tynnu graean o afonydd a phan ddangosir ei bod yn gwbl angenrheidiol gwneud hynny; er enghraifft, i liniaru'r perygl o lifogydd i eiddo cyfagos.
Meddai Hilary Foster, cynghorydd arbenigol cynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw CNC:
"Mae gwarchod ein hafonydd a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt yn flaenoriaeth i ni.
"Gall tynnu graean a newidiadau eraill i afonydd fod yn hynod o niweidiol. Mae gweithrediadau o'r fath yn dadsefydlogi'r afon a gallant newid cwrs y sianel. Gall gymryd blynyddoedd i afon adfer yn dilyn gwaith amhriodol.
"Mae Cymru wedi colli dros 50% o'i basleoedd graean pwysig dros y ganrif ddiwethaf.
"Mae'r graeanau hyn yn cynnal mwy na 500 o rywogaethau infertebrata, y mae dros hanner ohonynt i’w cael yn y cynefinoedd basle hyn yn unig. Mae basleoedd graean hefyd yn darparu cynefinoedd ar gyfer pysgod sy’n silio ac maent yn nodwedd allweddol ar ecosystem afon iach.
"Gan weithio yn unol â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol, mae ein swyddogion yn dal i nodi adroddiadau gan y cyhoedd ac adolygu delweddau lloeren yn ddyddiol, ac maent allan ar draws Cymru yn ymateb i ddigwyddiadau. Ni fyddant yn oedi rhag cymryd camau gorfodi lle bo angen.
"Gofynnwn i unrhyw un sy’n awyddus i wneud gwaith i afon gysylltu â CNC er mwyn i ni allu eu cynghori ar opsiynau priodol ac unrhyw ganiatadau angenrheidiol.”
Eirwen Williams yw Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig Menter a Busnes. Mae’r sefydliad yn gweithio ar y cyd â Lantra Cymru i ddarparu Cyswllt Ffermio, sef cynllun o fewn Cronfa Amaethyddol Llywodraeth Cymru ac Ewrop, sy’n darparu cymorth ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth yng Nghymru:
Dywedodd Eirwen:
"Os oes gan ffermwyr unrhyw gwestiynau neu broblemau y bydden nhw’n hoffi eu trafod ymhellach gydag arbenigwr, mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyngor am ddim am awr gyda chynghorydd priodol. Mae’r cymorthfeydd hyn yn cael eu trefnu o fewn deuddydd yn dilyn yr ymholiad cyntaf.”
Os byddwch yn gweld neu’n amau bod rhywun yn gwneud gwaith yn anghyfreithlon mewn afon, ffoniwch ein llinell ddigwyddiadau ar 0300 065 3000.