Cymryd camau yn erbyn cwympo coed yn anghyfreithlon: CNC yn sicrhau tri erlyniad sylweddol

Coed wedi'u cwympo ar ochr clawdd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi erlyn tri unigolyn yn llwyddiannus am gwympo coed yn anghyfreithlon, a hynny’n atgyfnerthu ei ymrwymiad i ddiogelu coedwigoedd a choetiroedd hynafol Cymru.

Mewn cyfres o achosion diweddar o bob cwr o Gymru, mae timau Rheoleiddio Coedwigoedd a Chyfreithiol CNC wedi cymryd camau pendant yn erbyn cwympo coed anawdurdodedig, gan sicrhau dirwyon o gyfanswm o £22,000, a gorchymyn atafaelu o £78,614.60 o dan y Ddeddf Enillion Troseddu.

Mae’r achosion hyn yn tynnu sylw at ganlyniadau difrifol methiant i gydymffurfio â rheoliadau coedwigaeth sydd wedi’u dylunio i ddiogelu treftadaeth naturiol Cymru.

John Kerwen Davies – Llys Ynadon Llanelli (21 Mawrth 2024)

Plediodd John Davies, 48, Cyfarwyddwr Agricultural and Plant Contractor Limited, Cross Inn Hall, Llanfihangel-ar-Arth, yn euog i gwympo tua 140 o goed yng Nghoedwig Coed Mawr, Llandysul, heb drwydded cwympo coed rhwng 23 Mehefin a 18 Gorffennaf 2023.

Mae’r safle, sydd wedi’i ddynodi’n Goetir Hynafol Lled-Naturiol, wedi bodoli ers dros 400 o flynyddoedd.

Cafodd Mr Davies, a gafodd ei rybuddio yn y gorffennol am droseddau tebyg, ddirwy o £2,000, gorchymyn i dalu £5,000 mewn costau, a gordal dioddefwr o £800.

Mark Anthony Vatsaloo – Llys Ynadon Caerdydd (1 Ebrill 2024)

Cafwyd Mark Vatsaloo, 59 oed o Lecwydd, Caerdydd, yn euog ar ôl defnyddio tarw dur i glirio coetir ar lan afon maint hanner cae pêl-droed.

Roedd y coetir hynafol, a fu dan goed yn barhaus am dros 400 mlynedd ac a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur ac sy’n gysylltiedig â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cwm Cydfin, yn fan gwyrdd trefol hanfodol yng Nghaerdydd.

Yn sgil y gwaith cwympo, dinistriwyd gwerth dros ddau a hanner llwyth lori gymalog o bren, sy’n fwy na phum gwaith y cyfaint y gellir ei gwympo heb drwydded.

Cafodd Mr Vatsaloo ddirwy o £20,000, gorchymyn i dalu £9,530 mewn costau, a gordal dioddefwr o £2,000.

Thomas Jeffrey Lane – Llys y Goron Abertawe (31 Mawrth 2024)

Mewn achos hir yn erbyn Jeff Lane, 74 oed o Cartersford, y Gŵyr, cafwyd ef yn euog o gwympo dros 8 hectar o goetir brodorol yn anghyfreithlon o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol y Gŵyr ger Abertawe.

Ar 14 Mehefin 2024, gwnaeth Llys y Goron orchymyn atafaelu o dan y Ddeddf Enillion Troseddu yn erbyn Mr Lane, a gorchmynnwyd iddo dalu £11,280.77, ar sail asesiad y Llys o’r asedau oedd ar gael ganddo ar y pryd.

Ym mis Rhagfyr 2024, daeth CNC yn ymwybodol bod asedau ychwanegol ar fin dod i feddiant Mr Lane yn sgil gwerthu eiddo.

Gan weithredu ar y wybodaeth hon, gwnaeth CNC gais i Lys y Goron i gynyddu’r swm y mae’n rhaid i Mr Lane ei dalu o dan y gorchymyn atafaelu gwreiddiol.

Ni wrthwynebodd Mr Lane gais CNC ac, ar 31 Mawrth 2025, yn Llys y Goron Abertawe, gorchmynnwyd iddo dalu swm uwch o £78,614.60. Mae’r ffigur hwn yn cynrychioli swm llawn yr elw ariannol a wnaeth Mr Lane yn sgil ei droseddu.

Dywedodd Callum Stone, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Coedwigoedd ac Iechyd Coed CNC:

“Mae colli coetir yn fygythiad sylweddol i gynefinoedd a bioamrywiaeth, yn enwedig yn wyneb yr argyfwng hinsawdd a natur. Mae’r achosion hyn yn anfon neges glir na fydd cwympo coed yn anghyfreithlon yn cael ei oddef.
“Mae trwyddedau cwympo coed yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o reoli ein coedwigoedd yn gynaliadwy, a byddwn yn cymryd camau gorfodi lle bo angen i’w diogelu.
“Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio’r gyfundrefn atafaelu i sicrhau nad yw diffynyddion euog yn cadw unrhyw fudd ariannol o’r troseddau amgylcheddol maen nhw wedi’u cyflawni.”

Anogir tirfeddianwyr a chontractwyr i wirio gofynion trwydded cwympo cyn torri coed. Mae trwyddedau cwympo yn rhad ac am ddim ac yn sicrhau bod coedwigoedd yn cael eu rheoli yn gynaliadwy.

Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru am arweiniad.