Cludwyr gwastraff anghyfreithlon yn cael eu targedu mewn ymgyrch ar y cyd ym Mhont Ewlo
Yn ddiweddar cafodd ymgyrch orfodi ei chynnal ar bont bwyso Ewlo, Sir y Fflint, gyda'r nod o fynd i’r afael â chludwyr gwastraff anghyfreithlon a safleoedd gwastraff anghyfreithlon.
Mae'r ymgyrch hon rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) a Heddlu Gogledd Cymru yn un o nifer sydd wedi eu cofrestru yn ddiweddar i dargedu troseddwyr sy'n defnyddio'r ffyrdd i gyflawni troseddau gwastraff. Cynhelir yr ymgyrchoedd rheolaidd hyn mewn gwahanol leoliadau ar draws gogledd Cymru.
Fel rhan o’r ymgyrch a gafodd ei chynnal ddydd Gwener 29 Gorffennaf, targedwyd cerbydau a oedd yn cludo gwastraff. Cafodd unrhyw gerbyd amheus ei stopio gan y DVSA a'r heddlu gyda'r nod o ddarganfod a oedd unrhyw wastraff ynddo ac i ble y byddai’n cael ei gludo. Pe bai’n dod i’r amlwg fod unrhyw droseddau gwastraff wedi cael eu cyflawni, byddai Swyddogion Gorfodi CNC wedyn yn delio â nhw yn y modd priodol.
Meddai Carys Williams, Arweinydd Tîm CNC ar gyfer Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff yn y Gogledd Ddwyrain:
"Drwy weithio mewn partneriaeth â'r DVSA a Heddlu Gogledd Cymru, rydym yn anfon neges gadarnhaol i'r rhai sy'n ceisio gwneud elw drwy dorri'r gyfraith, na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn goddef unrhyw niwed i gymunedau Gogledd Cymru na niwed i'r amgylchedd.
"Gall cludwyr gwastraff anghyfreithlon gael effaith andwyol ar fusnesau gwastraff cyfreithlon sy'n buddsoddi yn y mesurau cywir. Felly mae'n hanfodol ein bod yn ceisio gweithredu i ddiogelu pobl a'r amgylchedd, yn ogystal â diogelu marchnad wastraff Gogledd Cymru.
"Hoffem ddiolch i'r DVSA, Heddlu Gogledd Cymru a phob awdurdod lleol sy'n chwarae eu rolau hanfodol yn y gweithrediadau gorfodi rheolaidd hyn ledled Gogledd Cymru."
Meddai David Collings, Pennaeth Cyflawni Gorfodaeth y DVSA:
"Blaenoriaeth y DVSA yw amddiffyn pawb rhag gyrwyr a cherbydau anniogel."
"Trwy weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill rydym yn gallu cyfuno ein hadnoddau i helpu i fynd i’r afael â’r rheini sy’n diystyru rheolau diogelwch ar y ffyrdd ac yn niweidio'r amgylchedd.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a Heddlu Gogledd Cymru eto ac rydym am atgoffa gweithredwyr cerbydau lleol o'u dyletswydd i sicrhau bod eu cerbydau'n cael eu cynnal a'u cadw ac yn cael eu llwytho'n ddiogel i gadw defnyddwyr ffyrdd lleol Sir y Fflint yn ddiogel."
Dylai unrhyw un sy'n amau bod gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn digwydd yn eu hardal roi gwybod amdano drwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.