Symud gwastraff anghyfreithlon o Landŵ
Mae gwaith i symud hen fatresi a adawyd yn anghyfreithlon ar safle ym Mro Morgannwg wedi’i gynnal.
Bu Cyfoeth Naturiol Cymru yn goruchwylio’r gwaith o glirio yn Ystad Fasnach Llandŵ yn dilyn erlyniad llwyddiannus yn 2017 yn erbyn Victor Keseru a Nathan Thomas, a gyfaddefodd adael 336 o dunelli metrig o ddeunydd matresi wedi’i fwndelu ar y safle.
Dywedodd Su Fernandez, Uwch-swyddog Troseddau Amgylcheddol i CNC:
“Bu Mr Keseru a Mr Thomas yn gweithredu cwmni ailgylchu a gwaredu matresi o’r enw Envik Recycling Services, ac roeddent yn gyfrifol am fewnforio a gwaredu hen fatresi wedi’u bwndelu.
“Roedd hen fatresi wedi’u gadael yn yr awyr agored ac fe’u defnyddiwyd hefyd i lenwi warws ar y safle o’r llawr i’r nenfwd.
“Roedd cwsmeriaid wedi talu Envik am waredu/ailgylchu hen fatresi, ac felly roeddent wedi elwa’n ariannol o’r gweithgaredd anghyfreithlon hwn.”
Yn Llys y Goron Caerdydd rhoddwyd dedfryd o chwe mis o garchar i’r ddau ddiffynnydd, wedi’i gohirio am ddwy flynedd; ac fe’u gorchmynnwyd i dalu Gorchymyn Iawndal Llys o £26,000 ynghyd â £6,500 o gostau yr un, ac i wneud 225 awr o waith di-dâl.
Bydd cyfanswm y gorchymyn iawndal hwn sydd i’w gasglu gan y diffynyddion, sef £52,080, yn talu am waith gan gontractwr cymwysedig, a benodir gan CNC, i symud y gwastraff a’i waredu mewn cyfleuster awdurdodedig.
Disgwylir i’r gwaith o glirio’r safle bara wythnos.
Ychwanegodd Su:
“Roedd y gwastraff yn berygl i bobl a’r amgylchedd, a byddai’r gost o’i symud yn fwrn ar bwrs y wlad pe na bai’r gorchymyn iawndal wedi’i wneud.
“Byddwn yn parhau i weithredu yn erbyn y fasnach wastraff anghyfreithlon er mwyn gwarchod ein hadnoddau naturiol a’n cymunedau, ac i sicrhau tegwch i fusnesau sy’n gweithredu yn ôl y gyfraith.”