Gwelliannau yn yr arfaeth ar gyfer afon ar ôl digwyddiad llygredd
Bydd elusen amgylcheddol yng Ngogledd Cymru yn defnyddio £9,000 i wneud gwaith gwella hanfodol ar ôl i Afon Trystion gael ei llygru gan waddod o gronfa ddŵr.
Bydd DoPower, sy'n berchen ar y gronfa ddŵr ac yn ei rhedeg, yn talu'r arian i Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru yn dilyn ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl y digwyddiad ym mis Ebrill 2021.
Credir bod oddeuty 143 o frithyllod brown wedi’u lladd yn y gronfa ddŵr, sydd i fyny’r afon o Gynwyd, ac yna yn cael eu cario i mewn i’r afon gyda’r gwaelodion.
Ymchwiliodd swyddogion CNC ar ôl derbyn adroddiadau gan aelodau o'r cyhoedd a'r grŵp pysgota lleol yn nodi bod yr afon wedi’i hafliwio. Canfu'r swyddogion fod gostwng lefel dŵr y gronfa wedi achosi i waddod symud o lannau a gwely'r gronfa ddŵr.
Aeth y gwaddod i mewn i Afon Trystion drwy falf draenio agored a gwelwyd gwaddod yn cronni yn y cwrs dŵr o dan wal yr argae, ynghyd â nifer o bysgod marw.
Hysbyswyd DoPower o'r mater a gweithiodd y cwmni gyda CNC i atal y digwyddiad rhag gwaethygu. Arweiniodd hyn at wella ansawdd y dŵr o fewn 24 awr.
Roedd lefel y dŵr yn y gronfa ddŵr wedi'i gostwng yn ystod gwaith cynnal a chadw.
Ailgodwyd tâl o £2,812.50 ar y cwmni, sef costau cychwynnol yr ymchwiliad, a chytunodd CNC ar ymgymeriad gorfodi gyda DoPower i weddill y costau ymchwilio o £5,937.50 a £9,000 gael eu talu i Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru i wneud gwaith i wella cynefinoedd pysgod ar y cwrs dŵr.
Meddai Rhys Ellis ar ran CNC:
"Ein rôl ni yw sicrhau y gall busnesau weithredu heb niweidio pobl a'r amgylchedd; gall hyn olygu camau erlyn, ond mewn rhai achosion gall edrych ar opsiynau ar wahân i achos llys fod er budd y cyhoedd.
"Mae'r dull hwn yn enghraifft o sut y gall CNC gyflawni ei rôl allweddol er lles y gymuned ehangach.
"Mae'r arian hefyd yn cael ei wario yn yr economi leol yn hytrach na mynd i'r Trysorlys, sef yr hyn sy’n digwydd gyda dirwyon llys."
Dywedodd Peter Powell ar ran Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru:
“Roedd hwn yn ddigwyddiad ofnadwy sydd wedi cael effaith sylweddol ar fywyd gwyllt Afon Trystion. Rydym yn falch bod CNC wedi gallu gweld y broblem a chanfod ateb i atal y broblem rhag gwaethygu.
"Bydd y rhodd yn caniatáu i Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru wella cynefinoedd yn yr afon, a gobeithiwn y bydd hyn yn cyflymu adferiad y bywyd gwyllt yn sgil y digwyddiad erchyll hwn."
Ychwanegodd Philip Barrett ar ran CNC:
"Mae digwyddiadau fel hyn yn niweidiol i'r amgylchedd a gallant fod yn gostus i'r unigolion neu'r cwmnïau dan sylw.
"Byddwn yn ymchwilio i adroddiadau o lygredd a, lle bo modd, yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol.
"Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ddiogelu a gwella afonydd Cymru. Rhowch wybod i'n Canolfan Gyfathrebu Digwyddiadau drwy ffonio 0300 065 3000, e-bostio ICC@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu drwy glicio 'rhoi gwybod am ddigwyddiad' ar hafan ein gwefan."