Gorchymyn dyn o Lanbed i dalu bron i £2k ar ôl pledio'n euog i ladd eogiaid ifanc 'mewn perygl' ar Afon Teifi
Mae dyn o Lanbedr Pont Steffan wedi cael gorchymyn i dalu £1886 ar ôl pledio'n euog i ladd chwe eog ifanc ar Afon Teifi.
Gwelwyd Catalin Neagu yn pysgota yn Llanbedr Pont Steffan gan Swyddog Gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar 6 Gorffennaf 2022. Gwelodd y swyddog Mr Neagu yn dal pysgodyn bach a'i roi mewn bag plastig. Ar ôl gwadu i ddechrau ei fod wedi dal unrhyw bysgod, dangosodd Mr Neagu y bag i’r swyddog yn y pendraw. Roedd y bag yn cynnwys chwe eog ifanc.
Ers 2020, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bysgotwyr ddychwelyd unrhyw eog i'r afon heb niwed er mwyn iddynt gael y cyfle gorau i oroesi i silio ac atgynhyrchu.
Mae stociau eogiaid yn dirywio'n rhyngwladol ac yng Nghymru. Ystyrir bod stociau eogiaid Afon Teifi yn agored i niwed, yn anghynaladwy ar hyn o bryd ac yn is na'r terfynau biolegol diogel. O ganlyniad, aseswyd bod yr afon yn y categori risg uchaf ers y tair blynedd diwethaf.
Dywedodd Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm CNC, Tîm Gwastraff a Gorfodaeth Canolbarth Cymru:
"Gyda phoblogaethau eogiaid yn dirywio'n genedlaethol ac yn Afon Teifi, ni allwn fforddio colli chwech eog ifanc. Mae'r is-ddeddfau yn glir bod yn rhaid dychwelyd unrhyw eog a ddaliwyd yn afonydd Cymru yn syth i'r afon yn fyw.
"Trwy ladd eogiaid ifanc, roedd Mr Neagu yn tynnu pysgod silio y dyfodol o afon lle mae'r boblogaeth eisoes 'mewn perygl'. Mae pob pysgodyn yn bwysig pan fod stociau ar lefelau mor isel. Mae hyd yn oed niferoedd cymharol fach o bysgod yn hanfodol i stociau wella mewn cyn lleied o amser â phosib. Mae'r rhifau hyn felly yn gynhenid bwysig."
"Ni fyddwn yn oedi i erlyn pobl sy'n diystyru is-ddeddfau sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu poblogaethau eogiaid a brithyll y môr sydd mewn perygl Cymru."
Plediodd Mr Neagu yn euog i dri chyhuddiad yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 23 Ionawr 2023. Cafodd ddirwy o £330 ar bob cyhuddiad a chafodd orchymyn i dalu costau CNC o £500 a gordal dioddefwr o £396.