Llangennech flwyddyn yn ddiweddaraf: asiantaethau'n dod at ei gilydd i ddiolch i'r gymuned leol
Heddiw (26 Awst), fe dderbyniodd gymuned Llangennech blac wedi'i roi iddynt yn nodi 12 mis ers i drên cludo nwyddau ddod oddi ar y cledrau, gan ollwng 350,000 litr o ddisel ac achosi tân y gellid ei weld o filltiroedd o gwmpas.
Cafodd y plac ei ddadorchuddio yng ngorsaf drên y pentref yng ngorllewin Cymru gan gynrychiolwyr o'r rhai oedd yn rhan o'r gwaith adfer. Mae hyn yn cynnwys Network Rail, Cyfoeth Naturiol Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Adler and Allen, Heddlu Trafnidiaeth Prydain (yn cynrychioli'r holl wasanaethau brys) gyda Nia Griffith, AS Llafur Llanelli a'r Cynghorydd Gwyneth Thomas sy’n cyn hefyd yn rhan o'r seremoni.
Cafodd tua 300 o drigolion eu symud o'u cartrefi gan y gwasanaethau brys noson y digwyddiad oherwydd maint y tân, a gymerodd bron i ddau ddiwrnod i ddiffoddwyr tân ddiffodd.
Fe ddaeth y gymuned leol i’r adwy yn gyflym, gan ddarparu lloches frys a bwyd i'r rhai a oedd wedi symud o'u cartrefi.
Er na chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad, fe ddaeth y trên oddi ar ei gledrau ar safle o bwysigrwydd amgylcheddol rhyngwladol, gan achosi pryder mawr dros y dyfrffyrdd a bywyd gwyllt cyfagos.
Fe ddilynodd gwaith adfer amgylcheddol helaeth dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru. Chwe mis yn ddiweddarach, roedd 30,000 tunnell o bridd llawn tanwydd wedi'i gloddio o dan fwy na 150 metr o drac rheilffordd - gan atal effaith amgylcheddol barhaol a diogelu'r dirwedd leol. Ail-agorodd y rheilffordd ym mis Mawrth 2021, yn dilyn gosod trac newydd sbon ac offer signalau a ddifrodwyd yn y digwyddiad.
Am y tro, bydd y plac yn cael ei gadw’n ddiogel mewn storfa nes y gellir ei leoli'n barhaol yng Ngorsaf Llangennech i drigolion ac ymwelwyr â'r pentref ei weld.
Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr ffyrdd Cymru a'r Gororau yn Network Rail:
"Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y rhan a chwaraeodd pawb wrth ymateb i ganlyniad uniongyrchol y dadrithiad, y gwaith adfer amgylcheddol enfawr ac adfer y rheilffordd.
"Mae'n rhaid i ni gofio hefyd pa mor frawychus oedd hyn i'r bobl leol a oedd, er eu bod wedi'u symud o'u cartrefi, wedi dod at ei gilydd i ddarparu bwyd a lloches a chefnogi ei gilydd drwy'r amseroedd anoddaf.
"Dangosodd y gymuned ddewrder, cefnogaeth ac amynedd anhygoel. Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym wedi dychwelyd i ddweud diolch enfawr iddynt."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, a ystyriodd mai'r digwyddiad fod y digwyddiad morol mwyaf ers trychineb Sea Empress yn 1996, yn parhau i fonitro'r amgylchedd yn rheolaidd er mwyn olrhain cynnydd a sicrhau bod y cocos a'r pysgod cregyn a gynaeafir o Gilfach Tywyn yn parhau i fod yn ddiogel.
Dywedodd Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau'r De Orllewin, Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Cydlynodd Cyfoeth Naturiol Cymru waith adfer Llangennech, a diolch i'r ymateb ymroddedig gan ein partneriaid, buom yn gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol i atal trychineb amgylcheddol.
"Roedd y tîm yn cynnwys unigolion ymroddedig, medrus a phenderfynol yn gweithio gyda'i gilydd pob awr o’r dydd i gynllunio'n fanwl a gweithredu gwaith adfer cymhleth. Gan gofio hefyd fod y digwyddiad yn cael ei reoli'n ddiogel yn ystod Covid, gyda rheolau ymbellhau cymdeithasol ar waith a phan oedd yr holl adnoddau rheoli digwyddiadau ac argyfwng eisoes wedi'u hymestyn.
"Rwy'n mawr obeithio, flwyddyn ar ôl y digwyddiad hwn, fod bywyd yn ôl i fel oedd hi ynghynt i’r holl drigolion, busnesau, diwydiannau a theithwyr rheilffordd yr effeithiwyd arnynt ar y pryd. Cynorthwywyd y dasg adfer gan gydweithrediad a dealltwriaeth wych trigolion lleol ac aelodau etholedig."
Dywedodd y cynghorydd sir dros ward Llangennech, Gwyneth Thomas:
"Mae Cymuned Llangennech yn ddiolchgar iawn i'r Gwasanaethau Brys am eu hymateb cyflym iawn ar y noson ac am sicrhau diogelwch y safle. Hefyd i'r rhai a weithiodd ddydd a nos i sicrhau y gallai'r rheilffordd ailagor cyn gynted â phosibl.
"Diolch hefyd i'r bobl leol a roddodd eu cymorth. Fel Cymuned rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd rhan."