Cynllun llifogydd mawr yng Nghasnewydd wedi'i agor yn swyddogol

Mae cynllun mawr i leihau'r risg o lifogydd i fwy na 2,000 o gartrefi a busnesau yn ardal Llyswyry yng Nghasnewydd wedi cael ei agor yn swyddogol gan y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies AS, gan nodi dechrau wythnos Byddwch yn Barod am Lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Stryd Stephenson yn werth £25 miliwn, a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflawni gan CNC. Mae’n nodi carreg filltir arwyddocaol wrth wella gwydnwch Casnewydd yn erbyn llifogydd a newid hinsawdd.
Roedd mannau gwan ar hyd hen arglawdd Afon Wysg yn achosi llifogydd lleol yn yr ystâd ddiwydiannol gyfagos yn ystod llanw uchel.
Mae'r amddiffynfeydd newydd - cyfuniad o waliau llifogydd, gatiau ac argloddiau glaswellt - o fudd i gartrefi ac ardaloedd diwydiannol pwysig, gan ddarparu mwy o sicrwydd swyddi drwy amddiffyn y lleoedd lle mae pobl yn gweithio, cadw busnesau ar agor, a chefnogi'r economi leol ehangach.
Roedd y prosiect adeiladu mawr, a gyflawnwyd gan Alun Griffiths (Contractors) Ltd, yn cynnwys 700 metr o bolion dalen, wedi'u gosod i ddyfnder o 10m i helpu i gryfhau'r arglawdd, yn ogystal â wal goncrit wedi'i hatgyfnerthu o amgylch ystâd ddiwydiannol Felnex.
Mae rhan o'r briffordd oddi ar Eastbank Road hefyd wedi'i chodi, gan ddarparu llwybr amgen i ddefnyddwyr ffyrdd yn yr ardal, pan fydd y llifddor ar Corporation Road ar waith at ddibenion cynnal a chadw neu cyn llanw uchel.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd:
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol Casnewydd ac yn dangos ein penderfyniad i amddiffyn cartrefi a busnesau rhag effeithiau cynyddol newid hinsawdd. Eleni rydym yn darparu’r buddsoddiad uchaf erioed o £77m i gefnogi'r rhai sydd fwyaf mewn perygl drwy ein Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol.
"Wrth i ni wynebu realiti digwyddiadau tywydd mwy eithafol a lefelau'r môr yn codi, mae prosiectau fel Stryd Stephenson yn dangos sut y gallwn addasu ac adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn." Rwy'n arbennig o falch, yn ogystal ag amddiffyn cartrefi a busnesau rhag llifogydd, fod y cynllun hwn hefyd yn creu coedwigoedd trefol newydd ac yn gwella mannau gwyrdd lleol."
Dywedodd Ceri Davies, Prif Weithredwr CNC:
“Gall llifogydd gael effaith ddinistriol ar fywydau a bywoliaeth.
“Wrth i newid hinsawdd barhau i yrru cynnydd yn lefelau’r môr a thywydd mwy eithafol, mae cynllun Stryd Stephenson yn ymateb rhagweithiol i berygl llifogydd yn y dyfodol.
“Hebddo, mae ein modelau’n rhagweld mwy o berygl llifogydd i dros 1,000 o gartrefi a 1,000 arall o fusnesau ac amwynderau yn yr ardal.
“Bydd y cynllun yn darparu tawelwch meddwl effeithiol, hirdymor i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn ardal Llyswyry yng Nghasnewydd ac yn dod â manteision ecolegol a chymunedol ehangach i’r ardal, gan wneud Casnewydd yn lle mwy gwydn a ffyniannus i’w thrigolion am flynyddoedd i ddod.”
Yn ogystal â lleihau'r risg o lifogydd, mae'r prosiect wedi gwella mannau gwyrdd lleol a mynediad gwell i Lwybr Arfordir Cymru.
Mae llwybr troed newydd ym Mharc Coronation bellach yn cysylltu â Llwybr yr Arfordir, gan greu llwybr cerdded cylchol gyda golygfannau newydd dros Afon Wysg.
I wrthbwyso cael gwared ar tua 650 o goed a llwyni yn ystod y gwaith adeiladu, mae tair coedwig drefol newydd wedi'u plannu ym Mharc Coronation, sy'n cynnwys 1,600 o goed ifanc, gan gyfrannu at fioamrywiaeth a lleihau carbon.
Cafodd ymrwymiad y cynllun i gynaliadwyedd ei gydnabod yn ddiweddar yng Ngwobrau ICE (Sefydliad Peirianwyr Sifil) Cymru, lle derbyniodd Wobr Cynaliadwyedd Bill Ward. Mae'r wobr fawreddog hon yn tynnu sylw at lwyddiant y prosiect wrth gyflawni buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd hirdymor i'r gymuned.
Mae'r dathliad yn nodi dechrau wythnos 'Byddwch yn Barod am Lifogydd' CNC (6-10 Hydref), gyda'r nod o ddarparu cyngor hanfodol ynghylch pa gamau y mae angen i bobl eu cymryd os ydynt yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd.
Mae'n gobeithio annog y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, ond nad ydynt wedi profi llifogydd o'r blaen, i gymryd camau nawr i helpu i amddiffyn eu cartref, eu heiddo a'u teulu rhag effaith ddinistriol llifogydd yn y dyfodol.
Gan fod 1 o bob 7 o gartrefi a busnesau yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd, a chan fod yr argyfwng hinsawdd yn dod â thywydd mwy eithafol, mae hi’n bwysicach nag erioed bod pobl yn gwybod beth yw eu perygl llifogydd ac yn ei ddeall, ac yn cymryd tri cham syml cyn i’r stormydd gyrraedd.
- gwiriwch beth yw eich perygl llifogydd yn ôl cod post ar-lein
- cofrestrwch i gael rhybuddion llifogydd am ddim ar gyfer afonydd a'r môr
- byddwch yn barod pan ragwelir llifogydd
Dywedodd Ceri Davies:
“Wrth i ni fynd trwy fisoedd yr hydref a’r gaeaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl ledled Cymru i gymryd camau i baratoi ar gyfer llifogydd posibl.
“Er bod cynlluniau fel Stryd Stephenson yn chwarae rhan hanfodol wrth leihau’r risg o lifogydd, ni fyddwn byth yn gallu atal pob achos o lifogydd. Hyd yn oed os nad yw wedi digwydd i chi o'r blaen, nid yw'n golygu na fydd yn digwydd yn y dyfodol.
“Er y byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a systemau rhybuddio, a gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Dywydd i ragweld risg llifogydd, mae meithrin gwydnwch o fewn cymunedau hefyd yn hanfodol.
“Mae’n hanfodol bod y rhai sydd mewn perygl yn barod am lifogydd – hyd yn oed os nad ydyn nhw erioed wedi profi llifogydd o’r blaen – a’u bod nhw’n cymryd camau ymarferol nawr i gynyddu eu gwydnwch, a lleihau’r risg iddyn nhw eu hunain, eu hanwyliaid, a’u heiddo.”
Dywedodd Prif Feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Will Lang:
"Wrth i ni symud trwy'r hydref, rydym yn anochel yn gweld siawns gynyddol o dywydd effeithiol, gan gynnwys y posibilrwydd o stormydd gydag enwau a llifogydd."
“Mae Cymru wedi cael dechrau gwlyb iawn i’r hydref meteorolegol, gyda 50% yn fwy o law eisoes na’r cyfartaledd hirdymor ar gyfer mis Medi i gyd.
"Yn y Swyddfa Dywydd, rydyn ni'n gwybod mai paratoi cyn digwyddiadau tywydd garw yw'r ffordd orau o leihau effeithiau posibl, gan hefyd edrych ar y rhagolygon diweddaraf ac unrhyw rybuddion gan y Swyddfa Dywydd."
Ychwanegodd Ceri:
“Mae Cymru eisoes wedi gweld llifogydd yn ystod yr hydref gyda bandiau mynych a pharhaus o law trwm mewn cyferbyniad llwyr â’r haf poeth a sych a brofwyd gennym.
“Mae dalgylchoedd bellach yn llawer gwlypach ac yn fwy ymatebol i law pellach gan gynyddu’r tebygolrwydd o lifogydd yn ystod gweddill yr hydref ac i mewn i’r gaeaf.
“Byddem yn adleisio cyngor y Swyddfa Dywydd a phan ragwelir tywydd difrifol, rydym yn annog y cyhoedd i gymryd ein tri cham syml allweddol i fod yn barod am lifogydd y gaeaf hwn.”