Cod ymddygiad newydd Cymru gyfan ar gyfer casglu abwyd yn cynhyrfu’r dyfroedd
Mae pum egwyddor allweddol wedi’u llunio i leihau effaith casglu abwyd byw yn ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru.
Mynegwyd pryderon y gallai casglu abwyd byw, a ddefnyddir ar gyfer genweirio môr, fod yn achosi dirywiad yn iechyd cynefinoedd rhynglanwol gwarchodedig ar hyd rhannau o arfordir Cymru.
Gellir casglu abwyd trwy godi a throi clogfeini i gasglu'r crancod odditanynt, trwy gloddio am fwydod neu drwy gladdu gwrthrychau fel teiars mewn gwaddod i ddenu crancod - proses a elwir yn deilsio crancod.
Mae partneriaeth dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n cynnwys Prifysgol Bangor ac Angling Cymru Sea Anglers, a ariennir gan Brosiect Casglu Abwyd Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, wedi llunio’r cod a fydd yn rhoi gwell cyfle i gynefinoedd yr effeithir arnynt adfer drwy leihau effaith arferion casglu.
Mae cynefinoedd sensitif lle dylid osgoi casglu yn cynnwys morfeydd heli, riffiau llyngyr diliau, morwellt a graean lleidiog.
Mae siopau abwyd ledled Cymru bellach yn cael cynnig copïau o'r cod.
Dywedodd Dewi Evans, Swyddog Prosiect ar gyfer prosiect Casglu Abwyd CNC:
“Rydym yn falch iawn o lansio’r Cod Ymddygiad Cymru gyfan newydd ar gyfer casglu abwyd, sy’n rhoi argymhellion a chyngor ar arferion casglu abwyd.
“Rydyn ni wedi gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i ddod â hyn at ei gilydd. Mae’r cod newydd yn gweithio ar bum egwyddor allweddol: cymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig, gadewch bethau fel yr oeddent yn wreiddiol, gwarchodwch y draethlin, byddwch yn ymwybodol o’r gyfraith, a byddwch yn graff ac arhoswch yn ddiogel.
“Rydym yn dosbarthu’r cyngor mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys mewn siopau abwyd ledled Cymru, a thrwy Angling Cymru Sea Anglers, fel y gall casglwyr abwyd a genweirwyr môr gael mynediad at y cod ymddygiad newydd.”
Dywedodd John O’Connor, Cadeirydd Angling Cymru Sea Anglers:
“Mae hyn yn newyddion ardderchog i bob pysgotwr môr, profiadol a newydd. Mae’n ddiweddariad cwbl angenrheidiol i ganllawiau blaenorol ar gasglu abwyd cynaliadwy gan amharu a difrodi gyn lleied ag sydd bosibl ar yr amgylchedd lle bydd ein habwyd yn cael ei ganfod.
“Dylai hyn sicrhau bod y cynefinoedd hyn yn aros mewn cyflwr da er mwyn darparu ffynhonnell gynaliadwy o’n habwyd gwyllt ffres ar gyfer y dyfodol.”
Meddai Dr Liz Morris-Webb o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor:
“Rydym yn llwyr gefnogi’r Cod Ymddygiad Cymru Gyfan newydd ar gyfer casglu abwyd.
"Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ledled Cymru i gyd-ddatblygu’r canllawiau diwygiedig hyn a gobeithio y bydd mabwysiadu’r pum egwyddor syml yn arwain at fanteision gwirioneddol i gynefinoedd arfordirol Cymru, rhywogaethau abwyd a genweirwyr eu hunain.”
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu drwy Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, i gryfhau gwydnwch safleoedd tir a morol gwarchodedig Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i atal a gwrthdroi'r golled a'r dirywiad mewn cynefinoedd a rhywogaethau ac yn rhoi sylfaen gadarn i Gymru ar ei thaith tuag at adferiad natur.
Gallwch ddod o hyd i gopi o'r cod yma