Dyn o Gaerdydd yn euog o droseddau gwastraff ac yn cael ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol 12 mis
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llwyddo i erlyn dyn a oedd yn rhedeg ymgyrch wastraff anghyfreithlon o ystâd ddiwydiannol yng Nghaerdydd.
Plediodd Luke George Martin, a oedd yn gweithredu o dan enw cwmni LGM Recycle Waste Removal, yn euog i ddwy drosedd wastraff yn Llys Ynadon Caerdydd ar 31 Gorffennaf 2024.
Dedfrydwyd Mr Martin i orchymyn cymunedol 12 mis yn cynnwys 100 awr o waith di-dâl a deg diwrnod o adsefydlu sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd rhan mewn gweithgaredd i leihau'r posibilrwydd o aildroseddu. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu £3,000 fel cyfraniad tuag at gostau a gordal dioddefwr o £114.
Roedd y troseddau'n ymwneud â Mr Martin yn defnyddio garej a mannau parcio awyr agored yr oedd yn eu rhentu ar yr ystâd ddiwydiannol ar Ipswich Road i storio a didoli gwastraff heb drwydded amgylcheddol.
Mae trwyddedau amgylcheddol yn sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu rheoleiddio i ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl, fel rhoi seilwaith priodol yn ei le i leihau'r risg o danau gwastraff a llygredd.
Dechreuodd tîm rheoleiddio gwastraff CNC, gyda chymorth PC Mark Powell (a oedd ar secondiad gyda CNC), eu hymchwiliad ym mis Hydref 2022 yn dilyn adroddiadau am weithgareddau gwastraff anghyfreithlon posibl ar y safle.
Pan aeth y swyddogion i’r safle i gychwyn, gwelsant bentwr mawr o wastraff rheoledig wedi'i adael (gwastraff sy'n destun rheolaeth ddeddfwriaethol) ar dir y tu ôl i'r uned ddiwydiannol a oedd yn cynnwys gwastraff cartrefi, adeiladu a dymchwel.
Yn dilyn ymholiadau pellach, cadarnhaodd y swyddogion fod Mr Martin yn rhentu'r tir ac nad oedd trwydded amgylcheddol nac unrhyw esemptiadau gwastraff wedi'u cofrestru yn y cyfeiriad.
Ym mis Ebrill 2023, cyflwynwyd Hysbysiad Adran 59 i Mr Martin yn ei gwneud yn ofynnol iddo symud y gwastraff o’r safle i safle gwastraff a chanddo drwydded addas erbyn 30 Mai 2023.
Ond ar 7 Mai 2023, cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i dân yn ymwneud â’r gwastraff ar y safle. Yn sgil eu hymdrechion i daclo'r tân, llifodd llawer iawn o ddŵr ffo llygredig i mewn i Nant Lleucu gerllaw.
Cyfrannodd y gwastraff a'r modd y cafodd ei adael a'i storio at ddifrifoldeb y digwyddiad hwn a'r effaith ar yr amgylchedd.
Dywedodd Eleanor Davies, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Gwastraff CNC:
“Mae Mr Martin wedi gwneud elw ariannol trwy'r gweithgaredd anghyfreithlon hwn. Llwyddodd i osgoi costau rhedeg safle gwastraff cyfreithlon a thanseilio gweithredwyr gwastraff cyfreithlon sy'n cadw at y rheolau.
“Fe arweiniodd ei weithredoedd at dân gwastraff mawr a beryglodd fywydau pobl leol a’r diffoddwyr tân. Arweiniodd hefyd at lygredd i'r afon gyfagos.
“Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau yn erbyn gweithrediadau gwastraff anghyfreithlon i ddiogelu pobl, amgylchedd ac economi Cymru.”
I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ffoniwch 0300 065 3000 neu rhowch wybod ar-lein.