Gorchymyn dyn o Meifod i dalu bron £1,000 oherwydd troseddau pysgota anghyfreithlon
Mae dyn o Meifod wedi ei orchymyn i dalu £984 ar ô lei gael yn euog o droseddau pysgota anghyfreithlon yn Llys Ynadon Y Trallwng.
Cafodd yr ymchwiliad ei sbarduno gan adroddiad o bysgota anghyfreithlon ar Afon Banwy gan aelod o'r cyhoedd. Yn fuan wedi hynny, cafodd Rolands Bartkevics o Meifod ym Mhowys ei adnabod fel rhywun dan amheuaeth.
Gweithredwyd gwarant chwilio o dan bwerau'r heddlu yng nghyfeiriad Mr Bartkevics, a fynychwyd gan Swyddogion Gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Thîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys (HDP). Arweiniodd y chwiliad at ddarganfyddiad o dystiolaeth o drin eogiaid yn anghyfreithlon.
Yn ystod yr ymchwiliad, cyflwynwyd lluniau i Mr Bartkevics o'i gyfrif cyfryngau cymdeithasol o’i hun yn dal eogiaid. Cyfaddefodd mai ef oedd wedi dal y pysgod yn y lluniau ond dadleuodd nad dyddiad postio'r lluniau oedd dyddiad pryd daliwyd y pysgod.
Fodd bynnag, cafodd y lluniau o dan sylw eu postio cyn iddo erioed ddal trwydded ddilys i ddal eogiaid. Roedd y lluniau hefyd yn dangos iddo drin eogiaid mewn amgylchiadau amheus.
Ar ôl erlyniad gan CNC, cafwyd Mr Bartkevics yn euog o drosedd o dan Ddeddf Eogiaid 1986, a throsedd o dan Ddeddf Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 ar 6 Mawrth 2024.
Methodd Mr Bartkevics â mynychu'r gwrandawiad llys ac fe’i cafwyd yn euog yn ei absenoldeb.
Dywedodd Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Gwastraff a Gorfodaeth CNC yng Nghanolbarth Cymru:
"Mae’r eog yn rhywogaeth eiconig yng Nghymru. Mae eu presenoldeb mewn afon yn arwydd o ansawdd amgylcheddol uchel, a phan fo stociau yn gynaliadwy, maent yn cefnogi pysgodfeydd gwerthfawr i lawer o ardaloedd gwledig yng Nghymru.
"Gan fod eogiaid dan bwysau sylweddol o lawer o ffynonellau, mae eu niferoedd yn agored iawn i ddifrod trwy bysgota anghyfreithlon. Ers 2020, mae is-ddeddfau pysgota â gwialen a rhwyd yng Nghymru wedi golygu bod yn rhaid dychwelyd yr holl eogiaid sy'n cael eu dal yng Nghymru i'r dŵr yn fyw cyn gynted â phosib".
"Mae'n bwysig nodi mai aelod o'r cyhoedd adroddodd trosedd Mr Bartkevics i ni. Hoffwn ddiolch iddynt am eu gwyliadwriaeth ac adrodd yr achos yn brydlon. Hoffwn hefyd ddiolch i Dîm Troseddau Gwledig HDP am eu cefnogaeth yn yr ymchwiliad."
Cafodd Mr Bartkevics orchymyn i dalu dirwyon gwerth £300, £650 tuag at costau erlyn CNC, a £34 o ordal dioddefwyr.
Mae CNC yn annog unrhyw un sy'n credu eu bod wedi gweld tystiolaeth o bysgota anghyfreithlon i'w riportio ffonio’r llinell ddigwyddiadau 24/7 ar 0300 065 3000, neu'r ffurflen adrodd ar-lein.