Tipwyr anghyfreithlon Moel Famau wedi mynd gerbron y llys yn dilyn ymchwiliad CNC

''

Mae dau unigolyn wedi cael eu herlyn yn llwyddiannus am dipio anghyfreithlon yng Nghoed Moel Famau, ger Rhuthun, yn dilyn ymchwiliad dan arweiniad Taclo Tipio Cymru, ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Plediodd y ddau, Barhan Fakraden, 38, a Paige Brittles, 27, y ddau o Rhuthun, yn euog i droseddau o dan Adran 33 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Clywyd yr achos yn y Llys Ynadon Llandudno yn gynharach yr wythnos hon (27 Mai).

Rhoddodd y llys ddirwyon Band D i’r ddau ddiffynnydd, gyda Ms Brittles wedi’i gorchymyn i dalu cyfanswm o £938. Cafodd Mr Fakraden gosb uwch o £1,830. Gorchmynnwyd i'r ddau ad-dalu'r symiau mewn rhandaliadau misol o £100.

Daeth y digwyddiad tipio anghyfreithlon i'r amlwg ar 11 Tachwedd 2024, pan ddarganfu Warden o Dirwedd Genedlaethol Dyffryn Dyfrdwy chwe bag o wastraff wedi'u dympio ar dir a reolir gan CNC ym Moel Famau. Cafodd y bagiau eu casglu a'u cludo i Barc Gwledig Loggerheads, lle canfuwyd deunyddiau â manylion adnabod ymhlith y sbwriel – gan gynnwys deunydd pacio ac eitemau personol yn cysylltu'r gwastraff â'r ddau ddiffynnydd.

Yn dilyn cyswllt cychwynnol gan swyddogion CNC, methodd y ddau unigolyn â mynychu cyfweliadau gwirfoddol yng Ngorsaf Heddlu Dinbych. Yn ddiweddarach, cawsant hysbysiadau statudol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fynychu ar 19 Rhagfyr 2024. Yn ystod y cyfweliadau ffurfiol hyn, ni allai’r naill na’r llall roi esboniad boddhaol ynghylch sut y daeth eu gwastraff i fod ar y safle.

Er bod y ddau wedi honni bod busnes wedi cael ei gyflogi i gael gwared ar eu sbwriel, darganfuwyd mai dim ond ar ddiwrnod y cyfweliadau yr oedd y trefniant honedig yn dechrau, gan fwrw amheuaeth ar eu datganiadau.

Dywedodd Neil Harrison, Arweinydd Tîm Taclo Tipio Cymru:

“Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd sy’n difrodi ein hamgylchedd, yn costio arian i drethdalwyr, ac yn peryglu pobl a bywyd gwyllt. Mae'r erlyniad llwyddiannus hwn yn anfon neges glir ein bod yn cymryd y digwyddiadau hyn o ddifrif ac na fyddwn yn petruso cyn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n dangos cymaint o amarch at ein mannau naturiol. Hoffem ddiolch i’n partneriaid yn Nhirwedd Genedlaethol Dyffryn Dyfrdwy a Heddlu Gogledd Cymru am eu cefnogaeth yn yr ymchwiliad hwn.”

Mae Taclo Tipio Cymru a CNC yn parhau i weithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol i fynd i'r afael â throseddau gwastraff ledled Cymru ac yn annog y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus ar-lein neu drwy ffonio 0300 065 3000 24 awr y dydd.