Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi ymgynghoriad ar Barc Cenedlaethol newydd

Ffoto o Lyn Efyrnwy

Cynhelir cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 10 wythnos ar gynigion ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru rhwng 7 Hydref ac 16 Rhagfyr 2024, yn ôl cyhoeddiad heddiw (Dydd Llun 23 Medi) gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CNC i asesu’r dystiolaeth a’r achos dros gael Parc Cenedlaethol newydd ac i wneud argymhelliad.

Cafodd ardal astudiaeth (y cyfeirir ati fel yr Ardal Chwilio), sy’n seiliedig ar ‘Dirwedd Genedlaethol’ Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ei nodi a’i rhannu yn ystod cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd ar ddiwedd 2023. Yn dilyn hyn, a chyfnod o gasglu tystiolaeth, bydd CNC nawr yn ymgynghori â’r cyhoedd ar y cynnig sy’n dod i’r amlwg drwy gydol misoedd yr hydref a’r gaeaf.

Bydd y digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn gyfle i ddysgu mwy am y prosiect a’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, i ofyn cwestiynau i’r tîm a rhannu adborth ar y map ffiniau drafft y cyfeirir ato fel Map yr Ardal Ymgeisiol.

Meddai Ash Pearce, Rheolwr Rhaglen yn nhîm Rhaglen Tirweddau Dynodedig CNC:

Er bod gennym weithdrefn statudol i’w dilyn, rydym eisiau sicrhau fod hon yn broses gynhwysol a bod pobl yn cael cyfle i rannu eu barn ar y cynigion.
Mae ymgysylltu cynnar wedi rhoi darlun llawer cliriach i ni o broblemau, gobeithion a phryderon y bobl leol a rhanddeiliaid. Rydym wedi nodi un ar ddeg o themâu sy'n tanlinellu risgiau a chyfleoedd i'r ardal. Mae'r rhain yn adlewyrchu pryderon am dwristiaeth a'r effaith ar dai, ond hefyd y gobeithion am well rheolaeth, mynediad cyfrifol, cadwraeth ac adferiad byd natur.
Os caiff Parc Cenedlaethol newydd ei sefydlu, yna mae’n rhaid iddo allu rheoli’r risgiau a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, er mwyn gwella byd natur, pobl a chymunedau.”
Rydym wedi diwygio ardal yr astudiaeth mewn ymateb i adborth lleol ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi penodi tri ymgynghorydd annibynnol ar wahân i’n helpu i ddatblygu’r dystiolaeth a fydd yn llywio ein hargymhelliad. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae gennym bellach fap Ardal Ymgeisiol yr hoffem ei rannu â'r cyhoedd. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i fynychu un o’r digwyddiadau a restrir isod a chwblhau ein holiadur ar ôl gweld y crynodeb o’r dystiolaeth.

Mae pobl yn cael eu hannog i alw heibio i ddigwyddiad wyneb yn wyneb neu anfon e-bost at dîm y prosiect yn rhaglen.tirweddau.dynodedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk er mwyn cofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein. Dim ond un digwyddiad fydd angen i bobl fynd iddo gan y bydd yr wybodaeth a rennir yr un fath ar gyfer pob digwyddiad.

 

Digwyddiadau galw heibio cyhoeddus

Dyddiad Amser Lleoliad
Dydd Iau, 10 Hydref 3yh – 7yh Canolfan Gymunedol Parkfields, Llwyn Onn, Yr Wyddgrug CH7 1TB
Dydd Mercher, 16 Hydref 1yh – 7yh Canolfan Ceiriog, Ffordd Newydd, Glyn Ceiriog, Llangollen LL20 7HE
Dydd Llun, 21 Hydref 3yh – 7yh Neuadd Bentref Llanrhaeadr, Back Chapel Street, Llanrhaeadr ym Mochnant SY10 0JY
Dydd Sadwrn, 26 Hydref 10.30yb – 4.30yh Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug CH7 5LH
Dydd Gwener, 8 Tachwedd 3yh – 7yh Neuadd Goffa Wrecsam, Bodhyfryd, Wrecsam LL12 7AG 
Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd 10yb – 4yh Pwyllgor Sefydliad Cyhoeddus, Park View/Stryd Fawr, Llanfyllin SY22 5AA 
Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd 10yb – 4yh Canolfan Gymunedol Neuadd y Brenin, Rhodfa’r Brenin, Prestatyn LL19 9AA
Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr 3yh – 7yh Canolfan Cowshacc (1af Clives Own Welshpool Scout Headquarters & Community Centre), Stryd Berriew, Y Trallwng SY21 7TE
Dydd Mercher, 4 Rhagfyr 3yh – 7yh Canolfan Ni, Ffordd Llundain, Corwen, Sir Ddinbych LL21 0DP
Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 3yh – 7yh Neuadd y Dref Llangollen, Stryd y Castell, Llangollen LL20 8NU 

 

Digwyddiadau cyhoeddus ar-lein

Dyddiad Amser Lleoliad
Dydd Llun, 14 Hydref 6yh – 7:30yh
Microsoft Teams
Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 6yh – 7:30yh
Dydd Iau, 12 Rhagfyr 6yh – 7:30yh

 

Digwyddiadau grŵp wedi'u targedu

Dyddiad Amser Cynulleidfa darged Lleoliad
Dydd Llun, 7 Hydref 6yh – 7.30yh Aelodau Etholedig

Microsoft Teams
Dydd Iau, 24 Hydref 6yh – 7.30yh Grwpiau Hamdden a Mynediad
Dydd Mercher, 6 Tachwedd 2yh – 3.30yh Grwpiau Amgylchedd a Threftadaeth
Dydd Llun, 18 Tachwedd 2yh – 3.30yh Sector Ynni Adnewyddadwy
Dydd Mercher, 20 Tachwedd 3yh – 7yh Sector Amaethyddol a Thirfeddianwyr Coleg Llysfasi, Ffordd Rhuthun, Llysfasi, Rhuthun LL15 2LB 
Dydd Llun, 25 Tachwedd 2yh – 3.30yh Cyfleustodau
Microsoft Teams
Dydd Mercher, 27 Tachwedd 6yh – 7.30yh Busnesau a Thwristiaeth

 

I gael gwybod mwy ewch i wefan ein prosiect. Bydd yr holl adnoddau ymgynghori ar gael ar wefan y prosiect o 7 Hydref 2024 ymlaen.