Cyfoeth Naturiol Cymru yn dathlu 25 mlynedd o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy
Am y bumed flwyddyn ar hugain yn olynol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadw ei ardystiad FSC ar ôl cael ei ailasesu gan archwilwyr achrededig Cymdeithas y Pridd, am ei waith yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gynaliadwy. Mae hefyd wedi cadw ei ardystiad PEFC.
Mae CNC yn rheoli tua ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n ffurfio rhan o'r ystad goedwig sydd wedi’i hardystio am y cyfnod parhaus hiraf yn y byd.
Asesir ardystiad coedwig yn erbyn Safon Sicrwydd Coetir y DU (UKWAS) sy'n darparu safon annibynnol ar gyfer ardystio coetiroedd ledled y DU ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy.
Defnyddir safon UKWAS fel sail ar gyfer y ddau gynllun ardystio coedwigoedd achrededig sy'n gweithredu yn y DU: y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® (FSC®) a'r Rhaglen ar gyfer Cymeradwyo Ardystiad Coedwigoedd (PEFC).
Mae ardystiad i un neu'r ddau o'r cynlluniau hyn yn rhoi sicrwydd i brynwyr a defnyddwyr pren, a chynhyrchion pren, eu bod yn dod o goetiroedd a reolir yn gynaliadwy.
CNC yw'r cyflenwr pren mwyaf sydd â statws ardystiad deuol yng Nghymru, gan gynaeafu o gwmpas 735,000 m3 o goed o YGLlC bob blwyddyn.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
Rwy'n hynod falch bod Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, y mae llawer ohoni yn ffurfio Coedwig Genedlaethol Cymru, wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon o bum mlynedd ar hugain!
Mae hyn yn dangos yn glir ein hymrwymiad i goedwigaeth gynaliadwy, gan sicrhau ei fod yn darparu ar gyfer pobl, yr amgylchedd a'r economi ac edrychaf ymlaen at gyrraedd y garreg filltir nesaf.
Mae sicrhau coetiroedd yn cael eu rheoli’n gynaliadwy yn darparu llu o fuddion i'r amgylchedd ac i gymunedau ledled Cymru, gan gynnwys.
- Helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur
- Gwella bioamrywiaeth, tirweddau a chynefinoedd naturiol,
- Cefnogi'r diwydiant coed a'r economi yng Nghymru.
Meddai Matthew Park, Arweinydd Tîm Cynllunio Ystadau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae 25 mlynedd o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn garreg filltir arbennig. Mae ardystiad coedwigaeth yn brawf go iawn o ymroddiad a gwaith caled pob tîm a chontractwr ledled Cymru, sy'n helpu i sicrhau bod y tir yn ein gofal yn cael ei reoli'n dda.
Yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur, nid yw hi erioed wedi bod mor bwysig sicrhau bod ein coedwigoedd a'n coetiroedd yn cael eu rheoli'n gynaliadwy fel y gallant barhau i fod o werth i genedlaethau’r dyfodol.
Mae pob un o’n coedwigoedd yng Nghymru’n unigryw, ac rydym yn eu rheoli'n unigol i sicrhau eu bod yn gallu darparu'r cydbwysedd gorau posibl i bobl, yr amgylchedd, bywyd gwyllt, a chynhyrchu pren yn gynaliadwy.
Ar hyn o bryd mae tua 735,000 metr ciwbig o bren yn dod o ffynonellau cynaliadwy bob blwyddyn o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Mae'r system ardystio hon yn golygu y gallwn roi sicrwydd i’n cwsmeriaid bod pren, papur a chynhyrchion eraill sy'n dod o'n coedwigoedd yn dod o ffynhonnell gynaliadwy.