Dyddiad newydd ar gyfer sesiwn galw heibio llifogydd Llandinam
Mae sesiwn galw heibio yn ymwneud â risg llifogydd ar gyfer trigolion Llandinam ym Mhowys wedi'i aildrefnu i 11 Hydref.
Daw'r dyddiad newydd wedi i ddyddiad cychwynnol mis Medi gael ei ohirio fel arwydd o barch ac i gydnabod y cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Gwahoddir trigolion Llandinam i ddysgu am y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â risg llifogydd yn yr ardal yn sgil effeithiau llifogydd a brofwyd yn ystod Storm Franklin mis Chwefror 2022. Gall preswylwyr alw heibio Neuadd Bentref Llandinam ar unrhyw adeg rhwng 12:30pm a 5:30pm ar 11 Hydref.
Cynhelir y digwyddiad gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a bydd hefyd yn cynnwys staff o Gyngor Sir Powys, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn a Hafren Dyfrdwy.
Nod y sesiwn yw tynnu sylw at wasanaeth rybudd llifogydd CNC, gan ganolbwyntio ar sut y gall preswylwyr gofrestru i’r gwasanaeth. Bydd swyddogion hefyd yn gweithio gyda'r gymuned i gefnogi datblygiad Cynllun Llifogydd Cymunedol sy'n eiddo i'r gymuned, sydd wedi'i gynllunio i helpu'r gymuned gyfan yn ei hymateb cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
Bydd swyddogion CNC hefyd yn rhoi gwybod i drigolion am y gwaith parhaus a'r gwaith sy'n cael ei gynllunio ar gyfer yr ardal yn y dyfodol.
Dywedodd Sara Pearson, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Perygl Llifogydd a Rheoli Dŵr:
"Rydym yn gwybod bod Storm Franklin wedi cael effaith go iawn ar Llandinam ac mae ein meddyliau gyda'r rhai a gafodd eu heffeithio bryd hynny.
"Rydym yn gweithio gyda'r gymuned i gymryd camau rhagweithiol i leihau'r risg o lifogydd yn y gymuned hon yn y dyfodol, ac i helpu trigolion i gymryd eu camau eu hunain i leihau risg llifogydd.
"Bydd y digwyddiad galw heibio yn gyfle gwych i bobl leol ddod draw i ddysgu mwy am ein gwaith yn yr ardal ac i ofyn cwestiynau."