Asesiad cynefinoedd a rhywogaethau newydd yn gyfle i Gymru uno i adfer byd natur
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw am weithredu brys, ar y cyd ar draws pob sector, i helpu gydag adferiad rhai o gynefinoedd a rhywogaethau pwysicaf Cymru - a hynny wrth gyhoeddi’r asesiad lefel gwlad cyntaf o statws cadwraeth cynefinoedd a rhywogaethau Cymru.
Mae'r adroddiad, a gaiff ei gyhoeddi heddiw (22 Ionawr 2026), yn rhoi darlun cliriach a manylach nag erioed o’r blaen o gyflwr rhai o'n rhywogaethau a'n cynefinoedd mwyaf agored i fygythiad. Mae'n integreiddio gwybodaeth am gynefinoedd a rhywogaethau o arwyddocâd rhyngwladol, ynghyd ag adar Cymru, gan roi darlun cynhwysfawr o'r tueddiadau, y pwysau, a’r mesurau cadwraeth.
Mae'r dystiolaeth yn feincnod hanfodol ar gyfer ymdrechion i atal dirywiad bioamrywiaeth a natur, ac yn ffynhonnell o dystiolaeth allweddol ar gyfer Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol Cymru (SoNaRR 2025).
Mae'r adroddiad yn dangos bod llawer o gynefinoedd a rhywogaethau pwysicaf Cymru yn parhau mewn cyflwr gwael - gan danlinellu maint yr her sydd o'n blaenau. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn pwysleisio bod adfer cynefinoedd a rhywogaethau yn bosibl - a thrwy weithredu gyda'n gilydd nawr, gall Cymru sicrhau dyfodol sy’n gyfoethog o ran natur ac yn wydn o ran yr hinsawdd.
Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae:
- O blith 61 o gynefinoedd a aseswyd, dim ond dau y canfuwyd eu bod mewn cyflwr ffafriol yn eu cyfanrwydd ledled Cymru - tra bod cyflwr bron i 80% o’r cynefinoedd wedi’u categoreiddio fel "anffafriol-gwael".
- Ymhlith 53 o rywogaethau nad ydynt yn adar, dim ond 14 sydd mewn cyflwr ffafriol, tra bod 16 - gan gynnwys yr eog - yn dirywio’n ddifrifol.
- O ran rhywogaethau morol (heb gynnwys adar morol), mae pedwar mewn cyflwr ffafriol, tra bod ein dealltwriaeth o eraill yn parhau i fod yn ddiffygiol.
- Mae 16 rhywogaeth - gan gynnwys y glöyn byw ‘Britheg y Gors’ a phlanhigion eiconig fel ‘Tegeirian y Fign Galchog’ - wedi profi dirywiad difrifol.
- Er bod nifer o rywogaethau o adar yn profi dirywiad yn genedlaethol, mae niferoedd rhai rhywogaethau wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf, gan gynnwys y Pâl.
- Ymhlith y pwysau ar gynefinoedd a rhywogaethau mae amaethyddiaeth, newid hinsawdd, llygredd a datblygiad trefol, gydag effeithiau ychwanegol clefydau ar adar a phwysau ar bysgod sy'n gysylltiedig â dŵr.
Mae dadansoddiadau o gynefinoedd a rhywogaethau o arwyddocâd rhyngwladol o ran cadwraeth yn defnyddio tystiolaeth o raglenni monitro hirhoedlog, ymchwil annibynnol, a gwyddoniaeth dinasyddion. Mae'n archwilio amrediad, tueddiadau poblogaeth, ansawdd cynefinoedd a rhagolygon hirdymor, ochr yn ochr â'r pwysau sy'n parhau i achosi dirywiad.
O newid hinsawdd i lygredd a chlefydau, mae cymhlethdod y pwysau sydd ar ein cynefinoedd a'n rhywogaethau yn golygu bod yn rhaid cyflwyno atebion hirdymor ar y cyd.
Er gwaethaf maint yr her, mae'r asesiad hefyd yn dangos y gall camau gweithredu sydd wedi'u targedu, a arweinir drwy bartneriaeth, gyflawni canlyniadau.
Gan weithio gyda'n gilydd, rydym ni a'n partneriaid yn:
- cyflawni gwaith i adfer mawndiroedd, gan ragori ar dargedau cenedlaethol, a sicrhau y gall y mawndiroedd storio miliynau o dunelli o garbon
- hyrwyddo adferiad poblogaethau adar drwy fentrau fel Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir a Strategaeth Gwarchod Adar Môr Cymru
- adfer Tegeirian y Fign Galchog, Tafolen y Traeth, Llyffant y Twyni, a Madfall y Tywod yn llwyddiannus trwy raglenni ailgyflwyno rhywogaethau a rheoli cynefinoedd wedi'u targedu, tra bod gwaith yn mynd rhagddo ar adferiad misglod perlog dŵr croyw.
- gwella a chysylltu cynefinoedd a chryfhau gwydnwch rhywogaethau ledled Cymru drwy raglen Rhwydweithiau Natur gwerth £26.6 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
- adfer afonydd, coetiroedd a thwyni trwy Rwydweithiau Natur, Prosiect Adfer Afon Gwy Uchaf a phrosiectau LIFE eraill.
- gweithio mewn partneriaeth ag elusennau amgylcheddol drwy raglen adfer rhywogaethau flaenllaw Natur am Byth i gyflawni menter treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad, sy'n canolbwyntio ar achub rhywogaethau rhag difodiant.
- cyhoeddi ‘Rhywogaethau mewn Perygl’, astudiaeth arloesol sy'n nodi bron i 3,000 o rywogaethau Cymru sydd i’w cael mewn llond llaw o leoliadau yn unig - a thynnu sylw at y ffaith y gall camau syml a chost-effeithiol nawr helpu i sicrhau eu dyfodol.
Mae'r llwyddiannau hyn yn dangos y gall natur ymateb pan fydd y dystiolaeth yn glir a’r camau gweithredu’n cyd-fynd â’i gilydd yn gall.
Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol CNC:
Mae’r adroddiad hwn yn cyfleu darlun difrifol o natur yng Nghymru. Mae maint y dirywiad yn peri pryder - ond ni allwn laesu dwylo ac ystyried parhad y dirywiad yn anochel.
Yr hyn mae’r asesiad hwn yn ei roi inni yw eglurder: eglurder ynghylch y pwysau mwyaf ar natur, ac eglurder ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud. Mae'n sylfaen dystiolaeth y gallwn ei defnyddio i dargedu ein gwaith, ac i helpu eraill i dargedu eu gwaith nhw.
Rydym eisoes yn gweithio gyda phartneriaid - boed yn ffermwyr, rheolwyr tir neu’n awdurdodau lleol, cymunedau, sefydliadau a’r llywodraeth - i adfer cynefinoedd, gwella iechyd afonydd, cefnogi ffermio er budd natur drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a chyfrannu at gyflawni’r ymrwymiad i amddiffyn a rheoli 30% o dir a môr yn gynaliadwy erbyn 2030.
Bydd y llinell sylfaen hon, ynghyd â’r dystiolaeth a amlygwyd yn ein hadroddiad SoNaRR, yn llywio ein blaenoriaethau yn y dyfodol, ac yn sicrhau bod ymateb Cymru i’r argyfyngau natur a hinsawdd yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.
Drwy weithredu gyda’n gilydd nawr, gallwn sicrhau Cymru sy’n gyfoethog o ran natur ac sy’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, ac sy’n cefnogi lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Caiff y data a’r hyn o gallwn ei ddysgu o'r adroddiad hwn ei ddefnyddio i lywio Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd i'w lansio yr wythnos nesaf (29 Ionawr 2026).
Darllenwch yr adroddiad yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd 9A ar gyfer Cymru 2019-2024