CNC yn gofyn i drigolion Machynlleth am eu barn ar gynllun newydd i reoli coedwig leol
Mae trigolion Machynlleth yn cael eu hannog gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i roi eu barn ar gynllun newydd i reoli Coedwig Machynlleth.
Mae Bloc Coedwig Machynlleth yn cynnwys ardal eang sy’n cynnwys Pennal, Pont Dyfi, Cilgwyn, y Bont-faen a Chommins Coch.
CNC sy’n rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru ledled y wlad, ac mae’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn galluogi pobl i ddylanwadu ar y modd y rheolir y goedwig yn y deng mlynedd nesaf a thu hwnt.
Dywedodd Nick Young, Uwch Reolwr Tir ar ran CNC:
"Mae pawb a phopeth yn elwa o goedwig a reolir yn dda: mae'n darparu mannau gwyrdd i bobl eu mwynhau, pren cynaliadwy, mae’n dal a storio carbon ac mae manteision anferth i fioamrywiaeth leol.
"Rydym eisiau pobl ardal Machynlleth i ystyried y cynlluniau rydym wedi'u llunio i reoli Coedwig Machynlleth ac i roi eu barn i ni arni. Nid yw'r cynlluniau wedi'u cadarnhau a byddwn yn ystyried gwneud newidiadau yn seiliedig ar yr adborth.”
Gall preswylwyr ddod o hyd i'r cynlluniau ac ymateb i'r ymgynghoriad drwy fynd i wefan ymgynghori CNC ar: https://bit.ly/CACMach
Fel arall, gall trigolion ffonio 0300 065 3000 a gofyn i gael siarad ag un o’r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad. Wedyn bydd modd gofyn am gopïau o’r dogfennau drwy’r post.
Gall trigolion sy’n dymuno cyflwyno sylwadau eu hanfon i: Cyfoeth Naturiol Cymru, Heol Llanfair, Llanymddyfri, Sir Gar, SA20 0AL.
Bydd yn rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau neu gwestiynau erbyn 9 Hydref 2022.