CNC yn achub pysgod ar safle adeiladu
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi symud poblogaethau o frithyllod, llysywod a llysywod pendoll mudol i ddarn diogel o afon i'w diogelu tra bod pont newydd yn cael ei hadeiladu.
Bydd contractwyr sy'n gweithio ar ran Cyngor Sir Gwynedd yn dechrau gweithio ar y bont dros Afon Rhyd Hir, ger Pwllheli.
Yn ystod yr ymgyrch, cafodd 192 o bysgod eu symud i ddarn diogel o’r afon, gryn bellter o'r safle adeiladu.
Bydd y bont newydd yn disodli'r strwythur dros dro a godwyd wrth i waith atgyweirio gael ei wneud ar y bont hynafol ym Modfel, a gwympodd yn rhannol yn 2019.
Fe fydd yn welliant ar ffordd yr A497 rhwng Pwllheli a Nefyn ac mae disgwyl iddo agor cyn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ardal yn 2023.
Meddai Arfon Hughes Arweinydd Tim yr Amgylchedd ar gyfer, ar ran CNC:
"Er bod gwaith adeiladu o'r math hwn yn angenrheidiol, gall gael effaith andwyol ar boblogaethau pysgod; rydym yn aml yn cynnal ymgyrchoedd achub i sicrhau ein bod yn cyfyngu gymaint â phosib ar yr effeithiau hynny.
“Defnyddiodd swyddogion dechnegau electrobysgota i symud y pysgod heb achosi niwed iddynt.
"Mae hyn yn golygu stynio'r pysgod er mwyn eu dal a'u trin heb eu niweidio ac rydym hefyd defnyddio’r dull hwn wrth asesu poblogaethau pysgod yn ein hafonydd.
"Yn aml, mae angen achub pysgod fel rhan o Drwydded Amgylcheddol i wneud gwaith sy'n effeithio ar ddarnau hirach o brif afonydd ac fe’u cyhoeddir gan CNC fel rhan o'n rôl i ddiogelu stociau pysgod a lleihau'r risg o golli bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."