Ymgyrch CNC i fynd I’r afael â symud graean a gwaith addasu afonydd anghyfreithlon
Mae tasglu a sefydlwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i fynd i'r afael ag addasiadau ffisegol anghyfreithlon i afonydd a nentydd ledled y wlad wedi cyflwyno mwy na 30 o hysbysiadau cyfreithiol i stopio ac adfer i dirfeddianwyr.
Mae gwaith anghyfreithlon fel carthu, adlinio a chael gwared â graean mewn cyrsiau dŵr yn parhau i gael effaith negyddol ar yr anifeiliaid, y pysgod a'r planhigion sy'n byw yn afonydd a nentydd Cymru ac o’u cwmpas.
Mae'r mathau hyn o addasu yn achosi difrod tymor hir, gyda’r potensial i bara degawdau lawer. Gall y niwed i gynefinoedd a rhywogaethau ymestyn am filltiroedd i lawr yr afon o ble digwyddodd y gwaith addasu.
Meddai Oliver Lowe, Cynghorydd Arbenigol Geomorffoleg ar gyfer CNC:
"Yn ystod y cyfnod clo, profodd Cymru gynnydd digynsail mewn addasiadau ffisegol anghyfreithlon i'w chyrsiau dŵr, gan gynnwys carthu, cael gwared ar fasleoedd, adlinio cyrsiau dŵr ac amddiffynfeydd amhriodol ar y glannau.
"Sefydlwyd tasglu Difrod i Afonydd i wella ein hymateb i ddigwyddiadau o'r fath, ac rydym wedi cyflwyno mwy na 30 hysbysiad rheoleiddiol ar waith sydd heb ganiatâd.
"Mae ein hymateb gwell yn newid ymddygiadau tirfeddiannwyr wrth i’r si am ein camau gweithredu fynd ar led. Mae gennym hefyd yr opsiwn o erlyn os yw'r digwyddiad yn arbennig o ddifrifol. Os na chydymffurfir â hysbysiad, gallai hyn arwain at ddirwy ac erlyniad troseddol."
Mae hysbysiadau rheoleiddiol yn ddogfennau cyfreithiol y gellir eu rhoi i dirfeddiannwr neu gontractwr i atal gwaith sydd heb ganiatâd ac adfer y difrod a achoswyd.
Ychwanegodd Oliver:
"Mae diogelu ein hafonydd a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw yn flaenoriaeth i ni ac mae’r hysbysiadau hyn wedi bod yn effeithiol tu hwnt.
"Er enghraifft, yn 2021, gwnaed gwaith ar afon i osod wal o gaergewyll a arweiniodd at sianel gulach, mwy o gyflymder yn llif y dŵr, erydiad, perygl llifogydd a dirywiad yng nghynefinoedd yr afon.
"Fe wnaeth ein swyddogion ymweld â'r safle er mwyn stopio'r gwaith ac yna cyhoeddwyd rhybudd ffurfiol i adfer sianel yr afon.
"Heddiw, mae'r tirfeddiannwr wedi adfer proffil y lan, wedi hadu'r tir gyda glaswellt a blodau gwyllt sy’n frodorol i wlyptir ac mae coed helyg a gwern yn cael eu plannu ar y lan i wella sefydlogrwydd. Ar ôl i'r planhigion sefydlu, bydd y safle hwn yn debyg i lan afon naturiol sy'n llawn rhywogaethau brodorol ac yn cefnogi amgylchedd yr afon."
Dywedodd Hilary Foster, Cynghorydd Arbenigol ar gyfer Cynefinoedd a Rhywogaethau Dŵr Croyw i'r CNC:
"Mae'r gwaith hwn yn rhan o'n Rhaglen Adfer Afonydd ledled Cymru sydd hefyd yn cynnwys cyflawni prosiectau uchelgeisiol i adfer afonydd.
"Mae ein hymateb gwell i'r digwyddiadau hyn yn llwyddo i warchod ein hafonydd rhag difrod ac yn cefnogi ein nod o greu gwytnwch mewn ecosystemau. Mae'r gwaith hwn wedi ennyn diddordeb gan yr awdurdodau rheoleiddio yn Lloegr, yr Alban, a chyn belled i ffwrdd â Norwy.
"Os ydych yn ystyried gwneud unrhyw waith ar gwrs dŵr, dylech gysylltu ag CNC am gyngor. Byddwn yn darparu gwybodaeth am unrhyw ganiatâd a mesurau angenrheidiol er mwyn osgoi difrod amgylcheddol.
"Os na fyddwch yn ymgynghori â CNC cyn gwneud gwaith ar afon neu nant, rydych mewn perygl o gyflawni trosedd. Gall mesurau gorfodi gynnwys y gofyniad i adfer y cynefin sydd wedi'i ddifrodi."
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch CNC ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Os byddwch yn gweld neu’n amau fod rhywun yn gweithio mewn afon yn anghyfreithlon, ffoniwch linell ddigwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.