CNC yn gobeithio am sgoriau uchel am y bumed flwyddyn yn olynol wrth i waith samplu dŵr ymdrochi ddechrau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dechrau ei waith samplu blynyddol ar 107 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig ledled Cymru er mwyn profi a sgorio ansawdd dŵr pob safle.
Wrth i ni nesáu at yr haf, bydd samplau'n cael eu cymryd o bob safle dynodedig yng Nghymru. Yna caiff y rhain eu cymryd i ffwrdd, eu dadansoddi mewn labordy arbenigol a'u hasesu yn erbyn meini prawf penodol.
Bydd y samplau hyn yn cael eu cymryd o 15 Mai i 30 Medi ac ar ddiwedd y tymor bydd y canlyniadau'n cael eu casglu ar gyfer pob dŵr ymdrochi a'u defnyddio i asesu'r dŵr fel 'gwael', 'digonol', 'da' neu 'rhagorol'. Bydd hyn yn pennu'r dosbarthiad ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Y llynedd oedd y bedwaredd flwyddyn yn olynol i ddyfroedd ymdrochi Cymru gydymffurfio 100%, gan olygu nad oedd unrhyw safle dynodedig wedi sgorio llai na sgôr 'Digonol'.
Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae monitro cyflwr ein dŵr yn un o gonglfeini'r gwaith a wnawn yn CNC, ac rwy'n falch y gall y tymor eleni ddechrau gyda llai o'r heriau sy’n gysylltiedig â phandemig y Coronafeirws nag yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
"Roedd yn newyddion gwych ein bod wedi cydymffurfio 100% eto y llynedd. Ac roedd yn dangos pa mor galed yr ydym ni a'n partneriaid wedi bod yn gweithio'n lleol ac ar lefel genedlaethol i gadw dyfroedd ymdrochi Cymru mor lân â phosibl.
"Fodd bynnag, nid oes lle i laesu dwylo, ac rydym yn parhau i weithio'n galed gyda phartneriaid i fynd i'r afael â meysydd heriol a rhai sy'n peri pryder, ac rwy'n gobeithio y bydd canlyniadau eleni’n parhau i adlewyrchu'r holl ymdrech a wnaed gan y gwahanol dimau sy'n gweithio ledled Cymru i ddiogelu a gwella ein traethau a'n dyfroedd ymdrochi."
Yng nghanlyniadau'r llynedd, roedd 85 o ddyfroedd ymdrochi yn cael eu hystyried yn 'Rhagorol', 14 yn 'Dda' a 6 yn 'Ddigonol', gan gynnwys gwelliannau yn nosbarthiad wyth safle gan gynnwys Cemaes, Bae Cinmel a Nolton Haven.