CNC yn cyflwyno is-ddeddf frys ar gyfer eogiaid afon Hafren
Mae is-ddeddf frys i amddiffyn stociau eogiaid yn Afon Hafren sydd dan fygythiad yn cael ei chyflwyno gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer 2021.
Cafodd yr is-ddeddf, sy'n ei gwneud yn orfodol i bysgotwyr â gwiail a llinynnau ddal a rhyddhau pysgod ar Afon Hafren yng Nghymru, ei chyflwyno gyntaf cyn tymor 2020 ar ôl i ffigurau ar gyfer stociau ddatgelu gostyngiad sylweddol yn nifer yr eogiaid gan wthio'r afon i'r categori 'tebygol o fod mewn perygl'.
Daw i rym ddydd Llun (1 Mawrth, 2021).
Dywedodd Peter Gough, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae'r gostyngiad parhaus yn niferoedd y stociau eogiaid yn golygu y gallai pob pysgodyn a ddychwelir yn ddiogel gyfrannu at wella'r boblogaeth silio ac mae hyd yn oed niferoedd cymharol fach o bysgod yn hanfodol i adfer stociau mewn cyfnod mor fyr â phosibl.
"Nid dim ond mewn afonydd yng Nghymru a Lloegr y mae'r gostyngiad, ond ar draws Gogledd yr Iwerydd i gyd.
"Yn ddiweddarach y gwanwyn hwn rydym yn gobeithio cyflwyno ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd ar fesurau i ddiogelu stoc eogiaid Hafren am y 10 mlynedd nesaf.
"O ystyried yr amserlenni dan sylw, nid oedd yn bosibl cwblhau'r broses ymgynghori 3 mis arferol, felly wrth ddisgwyl y broses honno roedd angen i ni ddiogelu'r stoc gyda'r is-ddeddfau brys dros dro hyn."
Mae'r is-ddeddfau brys yn efelychu'r lefel bresennol o warchodaeth ar gyfer eogiaid a gyflwynwyd i rannau Lloegr o Afon Hafren gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn sicrhau ymagwedd dalgylch integredig at reoli stociau pysgod mudol.
Dim ond un rhan o raglenni cenedlaethol ehangach CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd i ddiogelu stociau eogiaid yw lleihau faint o eogiaid gaiff eu cymryd.
Mae'r camau a gymerir gan CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd a'u partneriaid yn cynnwys dileu rhwystrau, gwella ansawdd dŵr, lleihau ysglyfaethu, rhoi arferion amaethyddol gwell ar waith a mynd i'r afael ag unrhyw brosesau tynnu dŵr anghynaliadwy.
Ychwanegodd Peter:
"Rydym yn deall yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bysgotwyr, ond dim ond drwy gymryd camau pendant a chadarn y bydd ein stociau yn dychwelyd i lefelau cynaliadwy.
"Rydym am weithio gyda'r cymunedau pysgota i ddiogelu ein pysgod a'n pysgodfeydd i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau a bydd cyflwyno rheolaethau newydd yn gam cadarnhaol tuag at helpu i ddiogelu stoc."
Mae copi o'r Is-ddeddf Frys a chanllaw i'r tymhorau a'r cyfyngiadau o ran dull ar gyfer eogiaid ar gyfer holl afonydd Cymru i'w gweld ar dudalennau gwe CNC yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Tymhorau agored a chyfyngiadau dull ar gyfer eogiaid