CNC yn lansio Adroddiad Blynyddol newydd sy'n canolbwyntio ar effeithiau yn Sioe Frenhinol Cymru

Person yn penlinio mewn afon bas, yn dal fiol fach i gasglu sampl dŵr. Mae fan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i barcio ar y lan laswelltog y tu ôl, gyda choed a chefndir gwledig.

Heddiw (20 Gorffennaf 2026) datgelodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ei Adroddiad Blynyddol newydd sy'n canolbwyntio ar effeithiau yn Sioe Frenhinol Cymru, gan ddangos y gwahaniaeth y mae gweithredu amgylcheddol yn ei wneud i bobl, cymunedau a byd natur ar draws Cymru.

I nodi’r lansiad, trefnwyd trafodaeth banel yn cynnwys y Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd AS, Cadeirydd CNC Neil Sachdev a'r Prif Weithredwr Ceri Davies. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar sut mae Llywodraeth Cymru a CNC yn cydweithio i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd wrth gyflawni canlyniadau ymarferol ledled Cymru.

Mae'r adroddiad yn nodi dull newydd o adrodd yn flynyddol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar weithgarwch y sefydliad, mae'n tynnu sylw at y canlyniadau sy'n cael eu cyflawni ac effaith gwaith CNC ar gymunedau, yr economi a'r amgylchedd.

Mae'n adrodd hanes blwyddyn pan mae CNC wedi ymateb i ddigwyddiadau mawr, crynhau rheoleiddio amgylcheddol, amddiffyn cymunedau rhag llifogydd, adfer cynefinoedd pwysig a sicrhau buddsoddiad a fydd yn helpu i wella amgylchedd Cymru am flynyddoedd i ddod.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at flwyddyn o gyflawniadau sylweddol, gan gynnwys:

  • 404 cilomedr o afon wedi'i gwella ar draws Cymru.
  • Dros 600 hectar o fawndir wedi'i adfer, gan ragori ar darged blynyddol CNC a helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
  • 98% o ddyfroedd ymdrochi Cymru yn bodloni safonau amgylcheddol llym.
  • 598 hectar o gynefinoedd wedi'u rheoli i adfer rhywogaethau, gan gefnogi rhai o rywogaethau bywyd gwyllt mwyaf bregus Cymru
  • Ymatebwyd i fwy na 10,500 o ddigwyddiadau amgylcheddol yn ystod y flwyddyn.
  • Cymerwyd camau gorfodi yn erbyn mwy na 1,250 o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys tua 80 o erlyniadau.
  • £43.5 miliwn wedi'i gynhyrchu drwy weithgarwch masnachol, sy’n helpu i gefnogi gwaith CNC ar draws Cymru.
  • 559,000 tunnell o bren ardystiedig wedi’i gyflenwi gan Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, yn cefnogi swyddi ac yn cyfrannu at nodau hinsawdd.

Dywedodd Llyr Gruffydd, Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:

“Mae afonydd, moroedd, priddoedd ac ecosystemau iach yn hanfodol i sicrhau iechyd da i’r cyhoedd, cymunedau llewyrchus a ffyniant hirdymor i bobl yng Nghymru.

“Mae gan CNC rôl hollbwysig i’w chwarae wrth amddiffyn ein cymunedau, adfer byd natur, a chefnogi twf cynaliadwy. Mae'r adroddiad hwn yn dangos y gwahaniaeth go iawn y mae gweithredu amgylcheddol â ffocws yn ei wneud ledled Cymru.

“Mae’r dasg sydd o’n blaenau yn un heriol, ond drwy weithio mewn partneriaeth gallwn feithrin Cymru sy’n fwy gwyrdd, yn fwy gwydn ac wedi’i pharatoi yn well ar gyfer y dyfodol.”

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Neil Sachdev, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae Cymru’n wynebu heriau amgylcheddol sylweddol, ond dylem hefyd gydnabod y cynnydd sy'n cael ei wneud. Mae'n arbennig o briodol lansio'r adroddiad hwn yn Sioe Frenhinol Cymru, sy'n dwyn ynghyd lawer o'r bobl a'r sectorau sy'n chwarae rôl mor bwysig wrth lunio dyfodol amgylcheddol Cymru.

“Ar draws CNC, rwy'n gweld gweithlu angerddol ac ymroddedig, yn gweithio bob dydd i warchod cymunedau, gwella'r amgylchedd a chefnogi twf cynaliadwy.

"Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud ag effeithiau. Mae'n dangos nid yn unig yr hyn a wnawn, ond y gwahaniaeth a wnawn. O adfer ein hafonydd a lleihau'r risg o lifogydd i'n cartrefi a'n busnesau, i gefnogi adferiad natur a sicrhau buddsoddiad ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, mae'n dangos y gwerth y mae ein timau'n ei gyflawni i Gymru."

Ychwanegodd Ceri Davies, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae'r adroddiad newydd hwn yn rhoi darlun cliriach o'r canlyniadau rydym yn eu cyflawni a'r gwerth rydym yn ei greu i bobl, lleoedd a byd natur Cymru. Mae'n dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud ledled Cymru, yn ogystal â bod yn onest am yr heriau sydd o'n blaenau a'r ymdrech ar y cyd y bydd ei hangen i sicrhau adferiad hirdymor i fyd natur ac adeiladu gwydnwch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Gan ddefnyddio mewnwelediadau o'n Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, rydym wedi defnyddio rhybuddion SoNaRR drwy gydol yr adroddiad i roi cyd-destun pwysig i’r heriau sy'n wynebu Cymru, gan gynnwys colli natur, pwysau ar ansawdd dŵr a risgiau hinsawdd cynyddol. Maen nhw'n ein hatgoffa, er bod cynnydd yn cael ei wneud, fod maint yr her yn parhau i fod yn sylweddol a bod angen gweithredu'n barhaus yn gyflym ac ar raddfa fawr ledled Cymru."

Mae'r lansiad yn Sioe Frenhinol Cymru yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae ffermwyr, rheolwyr tir, busnesau, cymunedau a sefydliadau amgylcheddol yn ei chwarae yn nyfodol Cymru. Ni all un sefydliad unigol ddatrys yr heriau sy'n ein hwynebu o ran byd natur, yr hinsawdd ac ansawdd dŵr. Mae'r adroddiad yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy bartneriaeth ac yn tynnu sylw at y camau gweithredu ar y cyd sydd eu hangen i adfer byd natur, cryfhau gwydnwch hinsawdd, gwella ansawdd dŵr a chefnogi cymunedau gwledig ffyniannus.

Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon llawn 2025-26 ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru