CNC yn parhau i fod yn wyliadwrus wrth i Gymru brofi cyfnod hir o dywydd sych
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn delio â nifer o bryderon wrth i Gymru brofi cyfnod hir o dywydd sych, gan gynnwys tanau gwyllt, lefelau afonydd isel a marwolaethau ymysg pysgod.
Dim ond 62% o'i glawiad cyfartalog gafodd Cymru rhwng Mawrth a Mehefin. Arweiniodd hyn, ynghyd â'r don wres ddiweddar, at lifoedd hynod o isel mewn afonydd gan beri i rai sychu'n llwyr.
Er i rai afonydd ddechrau adfer yn sgil ambell achos o law dros y penwythnos, mae eraill yn parhau i fod yn isel iawn o ystyried yr adeg o'r flwyddyn. Yn niffyg unrhyw ragolygon o law sylweddol, mae afonydd sydd wedi adfer hefyd yn debygol o encilio.
Mae afonydd sydd â llifoedd isel a thymheredd uchel yn cynyddu lefelau'r straen ar boblogaethau pysgod, gan arwain at gais diweddar gan CNC i bysgotwyr dŵr croyw gymryd gofal ychwanegol wrth bysgota i helpu i atal niferoedd pysgod rhag lleihau ymhellach.
Mae swyddogion CNC hefyd wedi bod yn delio gyda nifer o achosion o danau gwyllt, yn enwedig digwyddiad diweddar ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Coedydd Rheidol yn y Canolbarth a effeithiodd ar sawl hectar o dir.
Aeth CNC a Llywodraeth Cymru i'r grŵp sychder cenedlaethol ar gyfer Lloegr hefyd i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon trawsffiniol. Yn dilyn y cyfarfod roedd hi'n amlwg bod y cyfnod hir o dywydd sych yn effeithio ar Gymru a Lloegr yn wahanol.
Daw llawer o ddŵr Cymru o ffynonellau dŵr wyneb, tra bod rhannau o Loegr yn casglu o ddŵr daear i raddau helaeth. Er gwaethaf pryderon tebyg ar ddwy ochr y ffin, bydd y rhain yn datblygu'n wahanol ac ar wahanol gyflymder yn dibynnu ar sut mae'r sefyllfa'n datblygu.
Ar hyn o bryd y pryderon yng Nghymru yw effeithiau posib y tywydd sych ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth, rheoli tir a chadwyni cyflenwi dŵr.
Meddai Natalie Hall, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy gyda CNC:
"Gall cyfnodau hir o dywydd sych effeithio ar rai o'n cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr. Gall hyn hefyd effeithio ar sectorau fel amaethyddiaeth, rhoi straen ar y system cyflenwi dŵr ac effeithio ar les pobl.
"Mae ein timau wedi bod yn monitro ac yn ymateb i ddigwyddiadau wrth weithio gyda rheoleiddwyr eraill, Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr, awdurdodau mordwyo a sefydliadau eraill er mwyn deall unrhyw bryderon a chamau angenrheidiol sy'n dod i'r amlwg.
"Y pedwar mis diwethaf fu'r sychaf mewn bron i 40 mlynedd, gan wneud dŵr yn adnodd gwerthfawr. Rydym yn annog y cyhoedd i arbed dŵr lle bo modd. I gael cyngor ar hyn ewch i wefan eich cwmni dŵr neu Waterwise. Cofiwch roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i'n llinell gymorth 24 awr ar 0300 065 3000."