CNC yn symud cychod segur o Aber Afon Dyfrdwy

Mae catamaran segur a nifer o gychod llai wedi’u symud o Aber Afon Dyfrdwy gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan helpu i lanhau’r ardal a’i gwneud yn fwy diogel.

Mae’r cam gweithredu hwn yn rhan o Brosiect Atal Sbwriel Morol a Hen Longau Segur CNC, sydd â’r nod o glirio cychod segur o Aber Afon Dyfrdwy. Drwy gael gwared ar rai o’r hen gychod segur gwaethaf, mae CNC yn helpu i warchod y bywyd gwyllt sy’n dibynnu ar yr aber.

Gallai cychod fel y catamaran mawr a chwe llong lai arall a dynnwyd o Gei Connah niweidio'r amgylchedd. Maent yn niweidio cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt a gallant ollwng deunyddiau niweidiol fel microblastigau, olew a phaent. Gall y cychod segur hefyd fod yn beryglus i ddefnyddwyr dŵr eraill, gan y gallent ddrifftio a dod yn beryglon cudd o dan yr wyneb.

Dywedodd Joanna Soanes, Rheolwr Prosiect Atal Sbwriel Morol a Hen Gychod Segur:

“Mae cael gwared ar y cychod hyn yn gam pwysig i wneud Aber Afon Dyfrdwy yn iachach i fywyd gwyllt. Mae pob cwch sy’n cael ei waredu yn dod â ni yn nes at aber lanach a mwy diogel, ac mae cael gwared ar y catamaran mawr hwn yn dipyn o gamp.
“Mae’r gwaith glanhau cychod segur hwn yn parhau cynllun ehangach CNC i wella’r aber, gan sicrhau amgylchedd mwy diogel i fywyd gwyllt a chreu man glanach a mwy pleserus ar gyfer hamdden cyhoeddus.”

Dywedodd Graeme Proctor, Harbwrfeistr Aber Afon Dyfrdwy:

“Mae gan bob perchennog cychod ddyletswydd gofal i gynnal a gofalu am eu gêr a’u cychod, a chael gwared arnynt mewn modd cyfrifol pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes.”
“Nid yw’n dderbyniol tipio na gadael gwastraff, gan gynnwys cychod, yn yr aber, sydd, wedi’r cyfan, yno er lles a mwynhad pawb.”

Os oes angen cyngor arnoch ar sut i gael gwared ar hen gwch, cysylltwch â Phrosiect Atal Sbwriel Morol a Hen Longau Segur CNC yn MLDVP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth am Aber Afon Dyfrdwy.