Mae CNC yn croesawu’r Papur Gwyrdd ar lywodraethu dŵr yn y dyfodol yng Nghymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi croesawu cyhoeddi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru sy’n cyflwyno cynigion ar gyfer llywodraethu dŵr yng Nghymru yn y dyfodol.
Meddai Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae hwn yn gyfle pwysig i edrych ar sut rydym yn rheoli’r adnodd hanfodol hwn a sut gall y system esblygu i ymateb i heriau newid hinsawdd, pwysau amgylcheddol a chynnydd yn y galw. Mae dull cryf, modern a gwydn ar gyfer rheoli dŵr yn hanfodol os ydym am amddiffyn ein hafonydd, ein llynnoedd, ein dŵr daear a’n dyfroedd arfordirol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru, mae diogelu’r amgylchedd dŵr, sicrhau adnoddau dŵr cynaliadwy a chefnogi ecosystemau gwydn yn parhau i fod yn ganolog i’n rôl. Rydym yn cydnabod bod angen gwelliannau ar draws y system, ac edrychwn ymlaen at gyfrannu cyngor sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi gwell tryloywder, buddsoddi hirdymor a chynnydd yn hyder y cyhoedd.
“Byddwn yn parhau i sicrhau goruchwyliaeth reoleiddiol gadarn drwy gydol y broses hon, gan gynnwys ein gwaith monitro, gorfodi a thystiolaeth, fel y gall pobl Cymru fod yn hyderus bod safonau amgylcheddol yn cael eu cynnal.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio’n adeiladol gyda chwmnïau dŵr, partneriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd wrth i’r cynigion hyn gael eu harchwilio, ac rwy’n annog pawb sydd â diddordeb yn amgylchedd dŵr Cymru i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a helpu i lunio system ar gyfer y dyfodol sy’n gweithio i bobl a byd natur.”