CNC yn cryfhau rheoleiddio cwmnïau dŵr wrth i adroddiadau perfformiad blynyddol gael eu cyhoeddi

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn parhau i gryfhau’r modd y mae’n rheoleiddio'r diwydiant dŵr yng Nghymru, wrth i ddata o'i adroddiad Asesiad Perfformiad Amgylcheddol blynyddol ddangos blwyddyn arall o ganlyniadau siomedig i Dŵr Cymru.
Y prif faes pryder a amlygwyd yn yr adroddiad yw cynnydd arall eto mewn digwyddiadau llygredd carthffosiaeth – sy’n codi am y 5ed flwyddyn yn olynol.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd CNC Adroddiad ar Ddigwyddiadau Llygredd, a ddatgelodd fod Dŵr Cymru yn gyfrifol am 155 o ddigwyddiadau llygredd carthffosiaeth a chyflenwadau dŵr yn ystod 2024, gan gynnwys chwe digwyddiad difrifol a 149 o ddigwyddiadau a gafodd lai o effaith. Dyma'r nifer uchaf o ddigwyddiadau a gofnodwyd gan y cwmni mewn deng mlynedd.
Cofnodwyd gwelliannau yn y data ar gyfer hunangofnodi digwyddiadau gan y cwmni. Yn ystod 2024, hunangofnododd y cwmni 74% o ddigwyddiadau, sy'n cynrychioli gwelliant o 6% ers 2022, ond sy’n dal i fod islaw'r targed o 80%.
Cynyddodd cydymffurfiaeth â thrwyddedau rhifol ar gyfer gollyngiadau o weithfeydd trin dŵr gwastraff a gweithfeydd trin dŵr o 98% yn 2023 i 98.7% yn 2024, ond mae angen rhagor o welliant eto i gyrraedd cydymffurfiaeth o 99%. Mae'r rhain yn gosod terfynau meintiol sy'n amddiffyn y cwrs dŵr sy'n derbyn y gollyngiad.
Mewn mannau eraill yn yr adroddiad, nodwyd pryderon ynghylch cynnydd mewn safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio ag amodau trwydded disgrifiadol. Mae'r amodau hyn yn cwmpasu agweddau megis cynnal a chadw safleoedd, rheolaeth weithredol, a rhwymedigaethau adrodd, gan gynnwys cyfrifoldebau hunanfonitro.
Mae'r adroddiad yn cadarnhau y bydd Dŵr Cymru yn aros ar sgôr o ddwy seren ‘angen i’r cwmni wella’ am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Meddai Becky Favager, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu CNC:
“Er bod Dŵr Cymru wedi dangos gwelliannau mewn rhai meysydd, nid yw’n dderbyniol nad ydyn nhw wedi gallu mynd i’r afael â gwir achos eu digwyddiadau llygredd sy’n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
“O ganlyniad i’r methiannau hyn mewn perfformiad, mae CNC wedi dilyn a chwblhau nifer o erlyniadau yn erbyn Dŵr Cymru eleni – gan gynnwys troseddau yn ymwneud â digwyddiadau llygredd difrifol a rhwymedigaethau hunanfonitro.
“Rydym yn parhau i gryfhau ein system reoleiddio drwy wella’r modd yr ydym yn monitro cydymffurfiaeth - gan gynnwys mwy o ymweliadau safle ac archwiliadau. Byddwn hefyd yn tynhau'r meini prawf yn yr Asesiad Perfformiad Amgylcheddol blynyddol, gan gynnwys metrigau newydd i roi darlun cyffredinol gwell o effaith cwmnïau dŵr ar yr amgylchedd gan wella tryloywder, atebolrwydd a chryfhau ein hymateb rheoleiddio ymhellach.
“Yn y blynyddoedd nesaf, rydym yn disgwyl y bydd y cwmni’n cyflwyno rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol a fydd yn gweld lefelau a chamau gweithredu a buddsoddi record yn yr amgylchedd, gan dargedu ardaloedd lle mae eu gweithrediadau’n achosi’r niwed mwyaf.
“Er y byddwn yn parhau i fynnu bod ei berfformiad yn gwella, rhaid i’r cwmni ysgogi’r newid systemig sydd ei angen er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau amgylcheddol.”
Dŵr Cymru yw darparwr dŵr yfed a charthffosiaeth dŵr gwastraff mwyaf Cymru, ond mae Hafren Dyfrdwy, sy’n rhan o grŵp Severn Trent, yn darparu gwasanaethau dŵr gwastraff a dŵr yfed i rai siroedd ar y ffin yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
Oherwydd ei ardal weithredu fach, nid yw Hafren Dyfrdwy yn derbyn sgôr seren gan CNC, fodd bynnag defnyddir mesurau tebyg i asesu perfformiad y cwmni.
Yn ystod 2024, perfformiodd Hafren Dyfrdwy yn dda ar gynnal ei record o ddim digwyddiadau llygredd difrifol ers i’r cwmni gael ei ffurfio yn 2018. Cynhaliodd y cwmni hefyd amodau trwydded gollwng dŵr rhifol ar 100% am yr ail flwyddyn yn olynol.
Er hynny, cynyddodd nifer y digwyddiadau llygredd carthffosiaeth a chyflenwadau dŵr effaith isel yr oedd yn gyfrifol amdanynt o bedwar i bump, a disgynnodd ei lefel hunangofnodi digwyddiadau o 75% yn 2023 i 60% yn 2024.
Ychwanegodd Becky:
“Mae’n galonogol gweld Hafren Dyfrdwy yn perfformio’n dda am flwyddyn arall, ac rydym yn hynod o falch o weld record lân y cwmni o ran digwyddiadau llygredd difrifol.
“Er bod cyfanswm y digwyddiadau effaith isel a achosir gan y cwmni bob blwyddyn yn gymharol isel, byddem yn dal i hoffi ei weld yn gweithio ar leihau’r rhain ymhellach, ac yn llwyddo i gyflawni ei gyfrifoldeb o hunangofnodi digwyddiadau i ni.”
Mae’n bosibl gweld adroddiadau perfformiad blynyddol y ddau gwmni ar wefan CNC. Mae'r dadansoddiad diweddaraf ar ddata gollyngiadau o orlifoedd stormydd hefyd wedi'i gynnwys yn yr adroddiadau.
Yn ogystal â newidiadau i'r Asesiad Perfformiad Amgylcheddol blynyddol, bydd deddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dŵr gyhoeddi Cynlluniau Lleihau Digwyddiadau Llygredd erbyn mis Ebrill 2026. Rhaid i'r cynlluniau hyn esbonio'n glir sut y bydd cwmnïau'n lleihau llygredd o'u holl asedau, gan gynnwys gorlifoedd stormydd.