Rhybudd CNC ynglŷn â chasglwyr gwastraff anghyfreithlon
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i’r cyhoedd fod yn ymwybodol o unigolion a busnesau sy’n hysbysebu gwasanaethau casglu gwastraff anghyfreithlon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r rhai sy’n dymuno gwaredu gwastraff yn cael eu targedu’n aml gan droseddwyr sy’n mynd ymlaen i dipio eu gwastraff yn anghyfreithlon. Gall effeithiau negyddol tipio anghyfreithlon fod yn ddifrifol, gan effeithio’n andwyol ar ansawdd yr amgylchedd a bywyd gwyllt a lles y rhai sy’n byw yn y gymuned leol.
Mae gan bawb ddyletswydd gyfreithiol i wirio bod y sawl sy’n mynd â’u gwastraff yn gludwr gwastraff cofrestredig. Os byddwch yn rhoi eich gwastraff i rywun arall, mae’n rhaid i chi wirio bod y person neu’r busnes wedi cofrestru ar gofrestr gyhoeddus CNC.
Os na fyddwch yn cyflawni eich dyletswydd gofal o ran eich gwastraff, gallech dderbyn dirwy pe byddech yn cael eich erlyn.
Meddai David Powell, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer y Gogledd Ddwyrain:
“Fel un sy’n cynhyrchu gwastraff, rydych chi’n gyfrifol amdano ac mae gennych chi ddyletswydd gofal i sicrhau ei fod yn cael ei waredu’n gyfreithlon.
“Ar gyfartaledd, mae cludwyr gwastraff cyfreithlon yn codi oddeutu £52 i waredu llond cist car o wastraff, oddeutu £166 ar gyfer llwyth fan, ac oddeutu £230 i waredu llwyth sgip. Os mae eich cludwr gwastraff yn codi llai na hyn, gofynnwch i gael gweld eu trwydded cludo gwastraff a gwiriwch gofrestr gyhoeddus CNC.
“Fel arall, gallai’r cludwyr gwastraff anghyfreithlon hyn waredu eich gwastraff mewn ardaloedd sy’n niweidio’r gymuned leol a’r amgylchedd, a byddwch mewn perygl o dderbyn dirwy sylweddol.”
Dylai unrhyw un sy’n amau gweithgaredd gwastraff anghyfreithlon yn eu hardal neu’n gweld hysbysebion amheus ar-lein roi gwybod i CNC drwy ffonio’r llinell ddigwyddiadau ar 0300 065 3000.