Dim ond mis sydd ar ôl i ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus CNC ar Barc Cenedlaethol newydd

Ffoto o Lyn Efyrnwy

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar Barc Cenedlaethol newydd arfaethedig yng Nghymru trwy edrych ar ddeunyddiau a chyflwyno adborth drwy holiadur ar fap ffiniau drafft wedi'i ddiweddaru (y cyfeirir ato fel yr Ardal Ymgeisiol). Mae'r map wedi newid ers i'r map cychwynnol o ardal yr astudiaeth gael ei rannu yn 2023 ac felly, mae rhannu adborth eto eleni yn hanfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CNC i gasglu tystiolaeth ac asesu'r achos dros Barc Cenedlaethol newydd. Nodwyd a rhannwyd map cychwynnol o ardal yr astudiaeth (y cyfeirir ati fel yr Ardal Chwilio) yn ystod cyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd yn 2023. Yn dilyn hyn, a chyfnod o gasglu tystiolaeth, mae CNC bellach yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus sy'n rhoi ail gyfle i bobl ymateb i'r cynnig sydd ar y gweill.

Mae'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi bod yn rhedeg ers dydd Llun 7 Hydref a bydd yn dod i ben ddydd Llun 16 Rhagfyr 2024. Mae holiadur yn fyw ar wefan y prosiect ac mae cyfres o ddigwyddiadau galw heibio a digwyddiadau cyhoeddus ar-lein wedi'u trefnu yng nghyffiniau’r ardal sy’n cael ei hasesu. Mae'r digwyddiadau'n gyfle i ddysgu mwy am y prosiect a'r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, gofyn cwestiynau i'r tîm a rhannu adborth ar Fap yr Ardal Ymgeisiol. Anogir pobl i fynd i ddigwyddiad galw heibio neu gofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein, a chyflwyno holiadur gyda'u hadborth.

Meddai Ash Pearce, Rheolwr Rhaglen yn nhîm Rhaglen Tirweddau Dynodedig CNC:

"Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar fap diwygiedig o’r Ardal Ymgeisiol ar gyfer Parc Cenedlaethol arfaethedig, ynghyd â thystiolaeth ategol.
Yn dilyn adborth yn 2023 ac eto eleni, rydym yn ymwybodol iawn bod amrywiaeth o safbwyntiau ar y cynnig.
Gallai Parc Cenedlaethol newydd ddarparu mecanwaith ychwanegol ar gyfer mynd i'r afael â rhai o heriau allweddol ein hoes, o adfer natur a bioamrywiaeth, i gryfhau gwytnwch yn erbyn newid yn yr hinsawdd, a helpu i leddfu problemau iechyd corfforol a meddyliol trwy ymarfer corff a meithrin cysylltiad â natur, gan hefyd helpu i gynnal amaethyddiaeth a chymunedau cynaliadwy.
Ond mae pryderon hefyd ynghylch sut y gallai effeithio ar gymunedau lleol, yn enwedig os na reolir y cydbwysedd rhwng cadwraeth a gwella ar un llaw, a phwysau ymwelwyr ar y llall.
Mae angen i Barciau Cenedlaethol gael eu hariannu'n ddigonol a'u rheoli'n dda i gyflawni eu potensial. Mae trefniadau priodol yn hyn o beth yn rhagdybiaeth sylfaenol yn asesiad CNC a byddwn yn ceisio eglurhad pellach ar hyn cyn cwblhau ein hargymhellion.
Er mwyn gwireddu'r manteision ac osgoi canlyniadau anfwriadol, mae angen i ni gael yr ardal bosibl ar gyfer Parc Cenedlaethol yn iawn, a hefyd sicrhau bod gennym ddarlun llawn o'r dystiolaeth a'r safbwyntiau sy'n bodoli. Dyna pam rydym yn ymgynghori eto ar y map diwygiedig ac adroddiadau tystiolaeth newydd.
Rwy'n annog pawb sy'n poeni am y materion hyn i ymateb i'r ymgynghoriad sy'n cau ar 16 Rhagfyr. Byddwn yn ystyried yr holl adborth yn ofalus, a bydd hyn yn helpu i lywio ein camau nesaf."

Dyma'r rhestr o'r digwyddiadau sy'n weddill:

Digwyddiadau galw heibio i’r cyhoedd

Dyddiad Amser Lleoliad
Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd 10am – 4pm Pwyllgor Institiwt Cyhoeddus, Park View/Stryd Fawr, Llanfyllin SY22 5AA 
Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd 10am – 4pm Canolfan Gymunedol Neuadd y Brenin, Rhodfa’r Brenin, Prestatyn LL19 9AA
Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr 3pm – 7pm Canolfan Cowshacc (1af Clives Own Welshpool Scout Headquarters & Community Centre), Stryd Aberriw, Y Trallwng SY21 7TE
Dydd Mercher,4 Rhagfyr 3pm – 7pm Canolfan Ni, Ffordd Llundain, Corwen, Sir Ddinbych LL21 0DP
Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 3pm – 7pm Neuadd y Dref Llangollen, Stryd y Castell, Llangollen LL20 8NU 

 

Digwyddiadau cyhoeddus ar-lein

Dyddiad Amser Lleoliad
Dydd Iau, 12 Rhagfyr 6pm – 7:30pm Microsoft Teams

 

Digwyddiadau grŵp wedi'u targedu

Dyddiad Amser Cynulleidfa darged Lleoliad
Dydd Llun, 18 Tachwedd 2pm – 3.30pm Sector Ynni Adnewyddadwy Microsoft Teams
Dydd Mercher, 20 Tachwedd 3pm – 7pm Sector Amaethyddol a Thirfeddianwyr Coleg Llysfasi, Ffordd Rhuthun, Llysfasi, Rhuthun LL15 2LB 
Dydd Llun, 25 Tachwedd 2pm – 3.30pm Cyfleustodau Microsoft Teams
Dydd Mercher, 27 Tachwedd 6pm – 7.30pm Busnesau a Thwristiaeth Microsoft Teams

 

I gofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein, ebostiwch eich diddordeb i dîm y prosiect yn designated.landscapes.programme@naturalresourceswales.gov.uk

Mae'r holiadur yn fyw ar wefan y prosiect a gellir ei weld yn:
https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/cynnig-parc-cenedlaethol-cymru-ymgynghori-2024/

Mae copïau papur hefyd ar gael ym mhob digwyddiad galw heibio.

I ddarganfod mwy am y prosiect, ewch i’n gwefan: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/tudalen-cynnig-parc-cenedlaethol-newydd-cymru/