Gwaith partneriaeth i hybu niferoedd madfall ddŵr brin yn Sir y Fflint
Bydd y fadfall ddŵr gribog yn elwa o waith a gwblhawyd yn ddiweddar ar safle gwarchodedig yn Sir y Fflint.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr o Tir Gwyllt a Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC) i adfer pyllau a chynefinoedd ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Maes y Grug yn Alltami a rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Safleoedd Madfallod Dŵr Bwcle a Glannau Dyfrdwy. Bydd hyn yn creu cynefinoedd bwydo a bridio newydd i’r fadfall ddŵr gribog ac amffibiaid eraill.
Mae’r contractwyr, Arwyn Parry Construction Services Ltd, wedi adfer pwll ar y safle, wedi crafu rhai o’r pyllau presennol i gael gwared ar ordyfiant a chynyddu eu dyfnder a’u maint, ac wedi creu cynefin bwydo newydd drwy gael gwared ar brysgwydd ar raddfa fawr.
Mae gwirfoddolwyr o ARC a Tir Gwyllt hefyd wedi rheoli’r cynefin o amgylch y pyllau i sicrhau nad yw’r prysgwydd yn ymledu i’r cynefinoedd pwysig. Roedd y gwaith hwn yn rhan o gynlluniau ehangach i adfer o leiaf 20 o byllau ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru.
Mae’r fadfall ddŵr gribog yn Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop. Mae’r anifeiliaid a’u hwyau, eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys wedi’u diogelu gan y gyfraith. Maent dan fygythiad oherwydd colli eu pyllau bridio yn sgil dinistrio neu ddirywiad yn ansawdd y dŵr, colli a darnio cynefinoedd ar y tir a chynnydd mewn chwyn estron goresgynnol.
Mae Maes y Grug wedi ei leoli yn Alltami sydd tua 3 milltir y tu allan i’r Wyddgrug. Hen bwll glo ydy’r safle, ac mae’n cynnwys pwll mawr wedi’i amgylchynu gan goetir collddail ynghyd â phyllau llai, corstir a glaswelltir wedi’u hamgylchynu gan dir pori. Mae’r safle yn un gwarchodedig yn bennaf oherwydd presenoldeb y fadfall ddŵr gribog.
Cefnogir y gwaith hwn gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Mae gan y gronfa uchelgais i gryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd gwarchodedig ar y tir a’r môr, gan gefnogi adferiad byd natur ac annog ymgysylltiad â chymunedau.
Bydd y prosiect hwn yn cael ei amlygu ddydd Gwener yma (22 Mawrth) yn y bennod ddiweddaraf o Coast and Country gan ITV Cymru.
Dywedodd Maria Majka, Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy Natura 2000 CNC:
“Rydym yn falch o fod wedi cwblhau’r gwaith hwn i hybu’r fadfall ddŵr gribog a phoblogaethau eraill o amffibiaid ar SoDdGA Maes y Grug a safleoedd eraill o fewn ACA Safleoedd Madfallod Dŵr Glannau Dyfrdwy a Bwcle ac ACA Safleoedd Madfallod Dŵr Johnstown.
“Mae cwmpas a chyfradd colled bioamrywiaeth ar draws y wlad yn cyflymu, a dyna pam mae prosiectau partneriaeth fel hyn mor bwysig i helpu i arafu dirywiad byd natur ac i’w adfer.
“Bydd y pwll wedi’i adfer, gwelliannau i’r pyllau presennol a’r gwaith clirio prysgwydd yn cynnig cynefinoedd bwydo a bridio hanfodol.
“Trwy weithio ar y cyd gyda chydweithwyr o sefydliadau eraill ar brosiectau fel yr un yma ym Maes y Grug, rydyn ni’n helpu i sefydlu seiliau cadarn i Gymru yn y gwaith o adfer byd natur.”
Dywedodd Mandy Cartrwright, ARC:
“Mae gweithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Wild Ground i adfer a chynnal y cynefinoedd hanfodol hyn sy’n cynnal cylch bywyd y fadfall dŵr cribog wedi bod yn llwyddiant ysgubol ym Maes y Grug.
“Heb y partneriaethau hyn a’r ymroddiad hwn fe allem yn hawdd iawn golli’r cynefinoedd hyn sy’n prinhau, gyda chymaint o fioamrywiaeth yn dibynnu arnynt yn y byd heriol a chyfnewidiol hwn.”
Dywedodd Leah Williams, Tir Gwyllt:
“Rydym yn falch o gydweithio â phartneriaid yn CNC, ARC a Chyngor Sir y Fflint i gyflawni’r gwelliannau hyn i gynefinoedd ar SoDdGA Maes y Grug sydd wedi’u hariannu drwy’r rhaglen Rwydweithiau Natur.
“Mae gymaint o byllau wedi’u colli, a bydd y gwaith sydd wedi’i wneud yma yn cefnogi madfallod dŵr cribog ac ystod o fywyd gwyllt eraill yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen i weld y safle a’i fioamrywiaeth yn parhau i ffynnu.”