Ymgynghoriad ar newid trwydded ar gyfer Doc Penfro
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi ei bod yn debygol y bydd yn caniatáu i Gyngor Sir Penfro newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer safle gwastraff yn Noc Penfro uned 41.
Mae CNC wedi asesu’n drylwyr gynlluniau’r Cyngor i ehangu ei weithrediadau gwastraff ac mae’n fodlon bod y Cyngor wedi dangos y gall wneud y newidiadau heb effeithio ar y gymuned neu niweidio’r amgylchedd.
Ond cyn iddo wneud penderfyniad terfynol, bydd CNC yn dechrau ail ymgynghoriad â phobl leol, busnesau a phartneriaid proffesiynol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae’r newidiadau i’r drwydded yn cynnwys ymestyn ardal y tir y mae’n storio gwastraff ynddo, ac ychwanegu mathau newydd o wastraff, gan gynnwys papur, cardfwrdd, metel a gwydr. Mae hefyd yn lleihau’r gweithrediadau prosesu gwastraff i fwndelu yn unig.
Bydd ail ymgynghoriad yn gyfle i bobl gyflwyno unrhyw wybodaeth newydd berthnasol y credant nad yw wedi’i hystyried hyd yma. Bydd yn cau ar 18 Mawrth 2020.
Dywedodd Gavin Bown, Rheolwr Gweithrediadau i Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Ers i Gyngor Sir Penfro ddod yn gyfrifol am y safle yn 2018, cafwyd gwelliannau enfawr i’r ffordd y mae gwastraff yn cael ei reoli. Bellach mae’n cynnig symleiddio’i weithrediadau drwy brosesu llai ar y safle, oherwydd erbyn hyn mae trigolion yn didoli’r gwastraff cyn iddo gael ei gasglu ar y stryd.
“Ar sail ein hasesiad cychwynnol, rydym yn fodlon ei fod yn gallu gwneud hyn heb niweidio’r amgylchedd neu iechyd pobl. Ond cyn inni fwrw ymlaen, hoffem gynnig cyfle arall i bobl leol neu fusnesau grybwyll unrhyw faterion newydd sydd heb gael eu hystyried yn flaenorol, yn eu barn nhw”.
“Byddwn yn ystyried yr holl sylwadau sy’n dod i law fel rhan o’n hymgynghoriad pan fyddwn yn gwneud ein penderfyniad terfynol.”
Mae copi o’r drwydded ddiwygiedig ddrafft, a’n dogfen benderfyniad sy’n amlinellu sut yr ydym wedi asesu’r cais, ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein.
Mae angen i sylwadau ar y drwydded ddrafft ein cyrraedd erbyn 18 Mawrth 2020, drwy eu hanfon at: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu:
Arweinydd y Tîm Trwyddedu (Gwastraff), Cyfoeth Naturiol Cymru, Y Gwasanaeth Trwyddedu (Caerdydd), Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.