Paratowch ar gyfer effeithiau llifogydd ledled Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus ac yn barod gan fod disgwyl i Storm Bram arwain at lifogydd a tharfu ledled Cymru.
Rydym yn disgwyl gweld nifer o rybuddion llifogydd byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Llun ac i mewn i ddydd Mawrth.
Mae potensial ar gyfer effeithiau sylweddol gyda'r gwaethaf yn cael ei deimlo yn Ne Cymru.
Mae rhybudd oren am law wedi cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer rhannau o Dde Cymru o hanner nos heno tan 10:00 o’r gloch ddydd Mawrth (9 Rhagfyr).
Mae'n cwmpasu Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen.
Mae hefyd rhybudd melyn am law i Gymru gyfan o 6:00 heno tan 2:00 bnawn yfory gyda rhybudd melyn am wynt yn cwmpasu rhannau helaeth o Gymru o 10:00 heno tan 4:00 bnawn ‘fory.
Gallai llanw uchel ynghyd â gwyntoedd cryfion achosi tonnau mawr iawn yng Ngwynedd a Cheredigion yn arbennig, ac rydym yn cynghori pobl i gadw'n glir o bromenadau a'r môr.
Disgwylir problemau dŵr wyneb, ac rydym yn galw ar bobl i gadw draw o lannau afonydd chwyddedig a pheidio â gyrru na cherdded trwy ddŵr llifogydd.
Mae pobl yn cael eu hannog i ystyried unrhyw gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd nawr i baratoi.
- Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim Cyfoeth Naturiol Cymru yn www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd neu drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188.
- Edrychwch ar y tudalennau rhybuddion llifogydd ar wefan CNC i gael negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod a Rhybuddion Llifogydd lleol. Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru bob 15 munud.
- Meddyliwch sut y gallwch chi baratoi eich cartref a'ch busnes nawr. Symudwch bethau gwerthfawr a cherbydau i leoliad uwch a meddyliwch am bacio pecyn llifogydd. Mae gan wefan CNC amrywiaeth o wybodaeth ar sut y gall pobl baratoi ar gyfer llifogydd.
Mae ein timau’n gweithio ochr yn ochr â'r Ganolfan Rhagolygon Llifogydd, ymatebwyr brys a'n partneriaid awdurdod lleol i baratoi ar gyfer y tywydd hwn, gan fonitro rhagolygon a rhagfynegiadau glawiad a darparu'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i hyder yn y rhagolygon gynyddu.
Bydd yr holl rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi gan CNC wrth i afonydd gyrraedd lefelau trothwy.
Meddai Charlotte Morgan, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd, Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Rydym yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus am lifogydd posibl gyda glaw trwm yn cael ei ragweld trwy heddiw (dydd Llun) a dros nos, yn enwedig mewn rhannau o Dde Cymru.
"Rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i baratoi ar gyfer llifogydd posibl nawr. Gallwch ddarganfod a ydych chi’n byw mewn ardal sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd ar ein gwefan a chofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim.
Hoffem atgoffa pobl i gadw draw oddi wrth lannau afonydd a glan y môr a pheidio â gyrru na cherdded trwy ddyfroedd llifogydd gan na wyddoch beth sydd o dan y dŵr.
"Rydym yn disgwyl gweld tonnau mawr iawn ac yn cynghori pobl i gadw'n glir o bromenadau a glannau'r môr gan y gallech gael eich ysgubo i ffwrdd gan donnau mawr neu eich taro gan falurion.
"Rydym yn meddwl am y cymunedau hynny sydd wedi cael eu heffeithio'n ddiweddar, a gallent gael eu heffeithio eto eto yn ystod y digwyddiad hwn.
“Os rhagwelir llifogydd yn eich ardal, rydym ni eisiau gofalu bod pobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw eu hunain yn ddiogel. Meddyliwch am baratoi pecyn llifogydd gydag unrhyw ddogfennau a meddyginiaeth bwysig, symud eich car i dir uwch a symud eiddo gwerthfawr i fyny'r grisiau neu i le uwch.
“Nid ydym yn darparu rhybuddion llifogydd ar gyfer llifogydd o ddŵr wyneb, felly mae'n bwysig i bawb wybod eu risg llifogydd.
“Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd ac ewch i’n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhybuddion llifogydd, a dod o hyd i gyngor ymarferol ar beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.”
Mae negeseuon llifogydd: byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud ac maent ar gael yma www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd
Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188.