Ceisio barn y cyhoedd ar gynllun deng mlynedd i reoli Coedwig Hafren
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i'r cyhoedd rannu eu barn ar gynllun deng mlynedd i reoli Coedwig Hafren, ger Llanidloes, ar ôl lansio ymgynghoriad cyhoeddus.
Roedd Coedwig Hafren ymhlith y safleoedd cyntaf i gael eu cyhoeddi fel safleoedd enghreifftiol o Goedwig Genedlaethol Cymru. Mae’r cynllun yn cwmpasu 3513 hectar o goedwig. Mae hyn yn cynnwys prif floc Coedwig Hafren; blociau Dolgau, Bryn Llwynygog a Llwynygog i'r gogledd, bloc coedwig Tan Hinon i’r dwyrain a bloc Maes y Brynar i'r de.
Mae'r goedwig yn gyfagos ar ei ymyl orllewinol i Bumlunom, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar gyfer ei chynefin mawn a phoblogaethau o adar sy’n bridio yn yr ucheldir.
Mae gan y cynllun yr ymgynghorir arno lawer o nodau gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi defnydd hamdden a chynaeafu pren o'r goedwig. Mae'r cynllun hefyd yn anelu at gefnogi a gwella treftadaeth a bioamrywiaeth yr ardal.
Dywedodd Glyn Fletcher, Uwch Reolwr Tir CNC:
"Mae Coedwig Hafren yn enghraifft wych o goedwigaeth fodern yng Nghymru. Mae'n lle poblogaidd ar gyfer hamdden; mae’n goedwig gynhyrchiol i'r diwydiant coed lleol, ac yn ganolbwynt hanfodol i fywyd gwyllt arbennig canolbarth Cymru. Does dim rhyfedd iddo gael ei ddewis fel un o safleoedd cyntaf Coedwig Genedlaethol Cymru.
"Er mwyn sicrhau bod y goedwig yn parhau i ddarparu'r ystod hon o fanteision ac yn ffynnu i'r dyfodol, rydym am i bobl leol ddweud eu dweud ar y cynllun ac awgrymu lle gellid gwneud gwelliannau."
Mae crynodeb o brif amcanion y goedwig a'r holl fapiau drafft ar gael i'w gweld ar wefan canolfan ymgynghori Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gall preswylwyr chwilio am 'ymgynghoriad Cynllun Adnoddau Coedwig Hafren Cyfoeth Naturiol Cymru' ar unrhyw beiriant chwilio ar y rhyngrwyd a dilyn y dolenni i'r dudalen ymgynghori.
Fel arall, gall preswylwyr ffonio 0300 065 3000 a gofyn am gael siarad ag un o'r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy'n gyfrifol am yr ymgynghoriadau. O'r fan honno byddant yn gallu anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.
Gall preswylwyr sydd am anfon adborth drwy'r post ei anfon at: Cyfoeth Naturiol Cymru, Powells Place, Y Trallwng, Powys, SY21 7JY.
Bydd angen dychwelyd yr holl adborth a chwestiynau erbyn 23 Ebrill 2021 fan bellaf.