Ymdrech i achub perlog misglod sydd mewn perygl difrifol
Mae gwaith i adfer cynefin hanfodol ar gyfer un o’r rhywogaethau sydd yn y perygl mwyaf yng Nghymru wedi’i gwblhau mewn afon yng Ngogledd Cymru.
Mae’r safle yng Ngwynedd, wedi’i gaffael yn ddiweddar gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn un o gadarnleoedd olaf poblogaethau perlog misglod yn y DU. Ond mae gweithgaredd dynol yn ystod y degawdau diwethaf, gyda’r afon wedi’i charthu a’r tir wedi’i ddraenio, wedi diraddio nodweddion yr afon sy’n hanfodol i’r rhywogaeth fridio a goroesi.
Cafwyd gwared ar argloddiau o ddeunydd oedd wedi’i garthu er mwyn ailgysylltu’r afon â’i gorlifdir naturiol. Mae dros 850 o dunelli o glogfeini a choblau wedi eu gosod yn ofalus yn ôl yn yr afon ynghyd â dros 330 o dunelli o raean newydd i ddarparu cynefin o ansawdd gwell ar gyfer perlog misglod a rhywogaethau eraill sy’n dibynnu arno.
Bydd y clogfeini yn dal y graean, gan ei rwystro rhag golchi i ffwrdd, a galluogi perlog misglod ifainc i gladdu ynddo – cam critigol yng nghylchred eu bywyd.
Mae ffosydd draenio oedd wedi cael eu torri trwy ardal o fawndir yn cael eu llenwi. Bydd adfer y mawndir yn gwella ansawdd dŵr yn yr afon ac yn cynyddu faint o ddŵr sydd ar gael yn ystod cyfnodau o sychder.
Bydd ffensio sydd wedi’i godi o amgylch yr ymylon hefyd yn cadw da byw allan o’r afon.
Mae cynllun i blannu coed fydd yn adfer cynefin naturiol y glannau ac yn darparu cysgod i’r afon, a’r gwelyau cregyn gleision yn y dyfodol.
Dywedodd Katie Fincken-Roberts, arbenigwr bioamrywiaeth o CNC:
“Mae perlog misglod mewn perygl difrifol, heb fridio’n llwyddiannus yng Nghymru dros y 30-40 mlynedd diwethaf. Gallan nhw fyw am dros 100 mlynedd, ond mae ymchwil yn dangos, heb gynefin addas, mae cregyn gleision ifainc yn ei chael yn anodd goroesi’r ychydig flynyddoedd cyntaf.
“Mae colli cynefin yn un o’r prif heriau sy’n wynebu’r rhywogaeth. Maen nhw angen cymysgedd naturiol o gynefin ffisegol amrywiol gydag ansawdd dŵr da a graean a thywod sefydlog, wedi ocsigeneiddio’n dda.
“Maen nhw fel arfer yn cael eu hystyried yn ddangosydd o ansawdd dŵr da ac maen nhw’n chwarae rôl bwysig mewn cadernid ecosystem. Maen nhw’n fwytawyr hidlo, sy’n golygu eu bod yn cymryd maethynnau allan o’r afon, ac maen nhw’n creu carped ar hyd wely’r afon sydd yn gynefin da ar gyfer rhywogaethau eraill.”
Mae’r prosiect wedi creu amgylchedd diogel ar gyfer cyflwyno rhagor o berlog misglod i’r afon mewn ymgais i wella poblogaethau a chyfraddau bridio.
Yn ddiweddarach eleni mae CNC yn gobeithio cyflwyno perlog misglod sydd wedi’u magu’n gaeth yn eu deorfa ym Mhowys.
Mae CNC hefyd yn gwneud gwaith adfer afon tebyg mewn lleoliad arall yng ngogledd Cymru lle maen nhw’n gobeithio creu gofod diogel pellach ar gyfer ailgyflwyno’r rhywogaeth.
Dywedodd Dr John Taylor, o Ddeorfa Cynrig CNC:
“Rydym yn gweithio’n galed i wrthdroi’r dirywiad dramatig yn y rhywogaeth hon. Mae poblogaethau perlog misglod yr Afon yn ddiflanedig yn weithredol yn eu cynefin ac ni fydden nhw’n adfer eu hunain felly mae’r rhaglen fridio caeth yn hanfodol i’w cynaliadwyedd yn y dyfodol.
“Mae’r ddeorfa’n ein galluogi i gynnal ‘banc genynnau byw’ yn cadw perlog misglod mewn oed mewn lleoliad diogel, wedi’i warchod. Mae hefyd yn ein galluogi i optimeiddio goroesi’r ifainc o dan amodau rheoledig, nawr mae gennym sawl mil o gregyn gleision ifainc, hyd at 6 mlwydd oed, fydd yn cael eu rhyddhau yn y dyfodol agos.”