Adroddiad yn dangos cynnydd mewn perfformiad rheoleiddio ond mae gwaith i'w wneud o hyd
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru heddiw (15 Tachwedd, 2022) yn datgelu fod rheoleiddio amgylcheddol cadarn yn helpu busnesau yng Nghymru i chwarae eu rhan yn y gwaith o ddiogelu’r amgylchedd naturiol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ond bod angen gwneud mwy o waith eto i atal digwyddiadau llygredd yn y dyfodol.
Mae Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol CNC 2021 yn dangos perfformiad rheoleiddio busnesau a chanddynt drwyddedau amgylcheddol yng Nghymru ac effeithiolrwydd dull rheoleiddio CNC. Mae’n edrych ar gydymffurfiaeth, achosion o lygredd, trosedd a gweithgaredd gorfodi a sut y mae CNC wedi cyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio a gorfodi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Er gwaethaf effeithiau parhaus cyfyngiadau COVID-19 ar arferion gweithio, aeth CNC ati i addasu ei ddulliau rheoleiddio i sicrhau ei fod yn gallu gweithio’n effeithiol ac yn ddiogel er mwyn ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol. Drwy ddefnyddio dull ar sail risg o flaenoriaethu a thargedu’r digwyddiadau a’r gweithgareddau mwyaf niweidiol yn ystod 2021, mynychodd swyddogion ychydig mwy na 2,400 o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn.
Mae’r adroddiad yn amlygu’r cynnydd yn nifer y digwyddiadau a’r achosion gorfodi a gafodd eu hadrodd yn ystod y cyfnod adrodd, gyda CNC yn derbyn 8,960 adroddiad o ddigwyddiadau amgylcheddol yn 2021 – cynnydd o 13 y cant o gymharu â 2020 a 33 y cant yn fwy nag yn 2019.
Mae ffigurau a geir yn yr adroddiad hefyd yn dangos fod mynd i’r afael â’r sefydliadau a’r unigolion hynny sy’n ceisio elwa o weithgareddau anghyfreithlon yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Yn 2021, roedd cyfanswm yr achosion gorfodi a grëwyd gan CNC yn 1,002, cynnydd o 343 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Roedd yr achosion hyn yn cynnwys 1,373 o gyhuddiadau cyfreithiol yn erbyn 956 o droseddwyr posibl - oedd yn cynnwys 355 o gwmnïau a 601 o unigolion.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau am drwyddedau, gan adlewyrchu dealltwriaeth ac ymrwymiad cynyddol busnesau i gydymffurfio â rheoleiddio amgylcheddol.
Er bod yr adroddiad yn dangos bod cynnydd yn cael ei wneud, mae CNC yn tanlinellu’r rôl bwysig y bydd cydymffurfiaeth a rheoleiddio da yn ei gael o ran diogelu cymunedau a natur rhag risgiau cynyddol yr hinsawdd yn y dyfodol.
Meddai Martyn Evans, Arweinydd Tîm Rheoleiddio’r Dyfodol ar ran CNC:
“Mae rheoleiddio cadarn yn tanategu ein diben o ddiogelu, cynnal a gwella adnoddau naturiol Cymru fel y gall pobl fyw bywydau iachach a gwell ac fel y gall ein bywyd gwyllt ffynnu.
“Er bod yr adroddiad hwn yn dangos rhai tueddiadau sy’n gwella, gwyddom fod llawer mwy i’w wneud eto. Nid yw ansawdd amgylchedd Cymru yn bodloni ein dyheadau ni, ein partneriaid a phobl Cymru, a bydd rhaid inni gael dull o gydweithio i fynd i’r afael â’r problemau mae Cymru yn eu hwynebu.
“Rydym yn parhau i weld pwysau ar ein hamgylchedd naturiol, ac mae achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth â rheoliadau, troseddau gwastraff a llygredd yn achosi difrod diangen, sydd hefyd yn sylweddol. Mae hyn, yn ei dro, yn effeithio ar gymunedau ac yn tanseilio busnesau cyfreithlon.”
Mae helpu busnesau i ddiogelu’r amgylchedd a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn rhan bwysig o ddyletswyddau rheoleiddio CNC.
Yn ystod 2021 roedd tua 11,000 o drwyddedau Rheoleiddio Trwyddedu Amgylcheddol a mwy na 41,000 o esemptiadau gwastraff mewn grym ledled Cymru. Hefyd, roedd mwy na 12,188 o gludwyr gwastraff gweithredol, broceriaid a delwyr wedi'u cofrestru â CNC. Mae'r cynnydd yn nifer y ceisiadau am drwyddedau yn adlewyrchu ymrwymiad busnesau yng Nghymru i gydymffurfiaeth.
Targedodd CNC fwy na 500 o asesiadau cydymffurfio ar gyfer mwy na 300 o safleoedd gwastraff trwyddedig, ac oddeutu 600 o asesiadau ar gyfer 172 o drwyddedau gweithfeydd, gan helpu i sicrhau bod gweithgareddau’n parhau i gydymffurfio â thrwyddedau’r safleoedd.
Ychwanegodd Martyn Evans:
“Rydyn ni i gyd eisiau byw mewn byd lle mae'r amgylchedd, pobl a'r economi yn bodoli mewn cytgord a lle mae adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn modd cynaliadwy. Er mwyn cyflawni hyn mae cydymffurfiaeth a rheoleiddio da ac effeithiol yn hanfodol.
“Mae CNC yn awyddus i gefnogi busnesau ac economi Cymru ac ar yr un pryd sicrhau rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol. O’r herwydd rydym wedi mabwysiadu ystod eang o ddulliau yr ydym yn eu defnyddio yn achos busnesau rheoledig, gan gynnwys rheoleiddio ffurfiol a dulliau eraill megis mentrau gwirfoddol, mecanweithiau economaidd a rhai sy’n seiliedig ar y farchnad, hyd at wybodaeth a chyfathrebu.
“Mae CNC yn parhau i ail-fuddsoddi adnoddau mewn mwy o weithgareddau cydymffurfio ac mewn atal llygredd yn y lle cyntaf. Er mwyn cefnogi hyn, rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar adolygiad o’r taliadau rydym yn eu gosod ar gyfer ein gwasanaethau rheoleiddio, i sicrhau eu bod wedi’u cysylltu’n agosach â chost wirioneddol cyflawni’r gweithgareddau hyn ac i sicrhau mai talwyr taliadau, nid y cyhoedd, sy’n ysgwyddo’r gost.
“Dylai’r canlyniad fod yn system godi tâl decach a mwy tryloyw a fydd yn arwain at warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol yn fwy effeithiol.”
Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad yma: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/sroc/strategic-review-of-charging/
Gallwch ddarllen Adroddiad Rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru 2021 yn llawn yma:
Cyfoeth Naturiol Cymru / Annual Regulation Report 2021 (naturalresources.wales)