Dirwy o £42,000 i ganolfan ailgylchu metel sgrap yn Rhydaman
Mae canolfan ailgylchu metel sgrap yn Rhydaman wedi cael dirwy o £42,000 am fethu â chydymffurfio ag amodau yn eu trwydded amgylcheddol.
Dedfrydwyd Ammanford Recycling Limited yn Llys y Goron Abertawe ar 5 Ionawr 2024.
Cawsant gyfanswm o £42,000 o ddirwy a rhaid iddynt hefyd dalu £4,652.42 mewn costau ynghyd â gordal o £2,000.
Canfu ymchwiliad a gynhaliwyd gan CNC ym mis Chwefror a Mawrth 2023 y bu digwyddiad o olew yn dianc o’r safle i dir cyfagos ac na ymatebodd y gweithredwr i’r digwyddiad ar unwaith. O dan y drwydded mae’n ofynnol i’r gweithredwr roi gweithdrefnau rheoli ac adfer ar waith ar unwaith yn unol â’r safonau angenrheidiol yn dilyn gollyngiad neu arllwysiad damweiniol a allai lygru ar safle.
Methodd y cwmni hefyd â chydymffurfio ag amod arall yn y drwydded i gadw gwastraff yn glir ar wahân i fathau o wastraff sy’n cael eu cadw ar y safle ar gyfer gweithrediadau rheoli gwastraff esempt.
Dywedodd David Ellar, Uwch Swyddog Tîm Rheoliadau Gwastraff CNC:
“Rhaid i bob busnes yn y diwydiant gwastraff fod â thrwydded i symud, storio neu drin gwastraff, ac i sicrhau bod hynny’n cael ei wneud mewn ffordd nad yw’n peri risg i’r amgylchedd nac i iechyd pobl.
“Canfuwyd bod y cyfleuster hwn yn torri sawl amod o fewn eu trwydded, ac roedd hynny’n amlwg yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd cyfagos.
“Lle bynnag y bo modd, rydym yn gweithio gyda gweithredwyr i sicrhau bod eu gweithgareddau’n cydymffurfio â’r gyfraith, ond pan fydd busnes yn methu â chydymffurfio dro ar ôl tro byddwn yn cymryd camau cyfreithiol.”
Er mwyn rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ffoniwch 0300 065 3000 neu defnyddiwch y ffurflen adrodd ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad