Arwyddion wedi’u gosod wrth ymyl afonydd i helpu pobl i roi gwybod am lygredd
Mae arwyddion i ddweud wrth bobl sut i roi gwybod am amheuaeth o lygredd mewn afonydd wedi cael eu gosod ar draws Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae nifer yr achosion o lygredd a adroddwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dros y pum mlynedd diwethaf wedi cynyddu, yn rhannol oherwydd ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd a phryder am effaith llygredd ar yr amgylchedd.
Mae CNC yn dibynnu ar bobl i roi gwybod yn gyflym ac yn gywir os ydynt wedi gweld llygredd er mwyn gallu cymryd camau i leihau’r niwed i gymunedau a natur. Ond gall hyn fod yn anodd wrth adrodd am lygredd ar afonydd llai neu afonydd anghysbell os nad yw pobl yn siŵr i bwy i roi gwybod amdano a sut.
Dyma pam mae CNC wedi gosod arwyddion ger pum afon ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr gyda’r rhif ffôn i’w ffonio a chyfeirnod grid fel rhan o dreial i annog pobl i roi gwybod am unrhyw beth maen nhw’n ei weld, ac i wneud y broses yn haws.
Mae’r arwyddion wedi’u gosod ar bontydd wrth ymyl afonydd yn y lleoliadau canlynol:
- Coldbrook – Coldbrook Road East a Dobbins Road, y Barri, Bro Morgannwg.
- Afon Tregatwg – Cardiff Road yn Ninas Powys, Bro Morgannwg.
- Afon Ddawan, St Athan Road ger The Herberts, i'r de o'r Bont-faen, Bro Morgannwg.
- Afon Ewenni – Ogmore Road i’r gorllewin o bentref Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr.
- Nant Ganna – Horsefair Road, Treoes, Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Alex Grainger, Swyddog Amgylchedd CNC:
“Mae ymateb i ddigwyddiadau yn rhan hanfodol o’n gwaith. Ni allwn fod ym mhob afon ledled Cymru 24 awr y dydd.
“Rydym yn dibynnu ar bobl i roi gwybod i ni’n gyflym am weld llygredd er mwyn gallu lleihau’r difrod yn sgil y digwyddiadau hyn.
“Rydym yn gobeithio y bydd yr arwyddion hyn yn ei gwneud yn haws i bobl gael y wybodaeth gywir i ni yn gyflym. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle gorau i ni ddod o hyd i’r llygredd, olrhain y ffynhonnell, lleihau’r effaith a chasglu tystiolaeth ar gyfer unrhyw gamau gorfodi y gallwn eu cymryd.”
Dylid rhoi gwybod i CNC am achosion o lygredd drwy ffonio’r llinell gymorth 24 awr ar gyfer digwyddiadau ar 03000 65 3000 neu ar y dudalen we Rhoi gwybod am ddigwyddiad.