Newidiadau bach ar gyfer afon lanach
Mae gwaith i wella ansawdd dŵr ymhellach mewn afon ym Môn, sy'n effeithio ar ddŵr ymdrochi pentref glan môr poblogaidd, yn cymryd cam mawr ymlaen y mis hwn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda ffermwyr lleol ar hyd Afon Wygyr i leihau llygredd o amaethyddiaeth sy'n effeithio ar Fae Cemaes.
Gan ddechrau gyda saith fferm, bydd tua pedair milltir a hanner (saith cilometr) o'r afon yn cael ei ffensio, gyda chafnau’n cael eu gosod i ddarparu dŵr yfed amgen ar gyfer gwartheg.
Bydd mynediad i'r afon yn cael ei gyfyngu i hyd at 700 o wartheg.
Bydd y gwaith yn dod â manteision amgylcheddol ehangach - bydd llai o wartheg yn yr afon yn golygu llai o darfu ar wely a glannau’r afon sy'n newyddion da i fywyd gwyllt.
Mae'r gwaith yn rhan o raglen ehangach o fesurau atal llygredd ar gyfer Bae Cemaes, a wneir mewn partneriaeth â'r gymuned leol, yr Ymddiriedolaeth Afonydd, Dŵr Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn.
Dywedodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd Cymru ar gyfer CNC:
“Gall gwneud newidiadau bach i arferion fferm wneud gwahaniaeth mawr i ansawdd dŵr mewn nentydd, afonydd a dyfroedd arfordirol cyfagos.
“Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi canolbwyntio ar y system garthffosiaeth yn yr ardal, gan weithio gyda Dŵr Cymru a pherchnogion tai, i liniaru digwyddiadau llygredd o bob ffynhonnell.
“Trwy wneud llawer o welliannau bach, gallwn fwynhau afonydd glanach a dyfroedd ymdrochi.”
Meddai deiliad portffolio Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Richard Dew:
“Ar ôl gweithio i sefydlu Grŵp Tasg Dŵr Ymdrochi Bae Cemaes mewn ymateb i'r materion hyn, mae'r Cyngor Sir yn cefnogi'r fenter newydd hon yn llawn.
“Mae ein swyddogion wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru a’r gymuned ffermio leol i gyflawni ein nod cyffredin o leihau llygredd amaethyddol yn Afon Wygyr ac, o ganlyniad, gwella ansawdd dŵr ymdrochi ar draeth Bae Cemaes.
“Mae croeso mawr i’r ymdrechion ychwanegol hyn i wella ansawdd dŵr ac edrychwn ymlaen at gynnig ein cefnogaeth barhaus.”
Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan gwmni peirianneg GHJ Civil Engineering a ffensiwr o Bwllheli, Gareth Williams.