Cadw ein pellter ond bob amser ar ddyletswydd - defnyddio technoleg i ddal troseddwyr gwastraff
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn defnyddio technegau gwyliadwriaeth uwchdechnolegol i fynd i'r afael â gweithredwyr gwastraff diegwyddor sy'n ceisio manteisio ar argyfwng y Coronafeirws.
Mae canllawiau'r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol yn golygu nad yw swyddogion CNC yn gallu defnyddio eu dulliau ymchwilio arferol. O'r herwydd, maen nhw wedi troi at gamerâu lloeren a thechnoleg drôn soffistigedig i helpu i dracio troseddwyr gwastraff.
Mae'r dull newydd yn cynnwys:
- Defnyddio lluniau drôn i ymchwilio i achosion o waredu gwastraff yn anghyfreithlon.
- Cymryd rhan a manteisio ar ymchwil ac offer a grëwyd mewn partneriaeth ag Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban drwy'r Prosiect Gwastraff LIFE SMART.
- Treialu'r defnydd o ddelweddau lloeren a gafwyd gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, yn ogystal â data delweddau manylder uchel o loerennau masnachol.
Eglurodd Adrian Evans, pennaeth menter Taclo Troseddau Gwastraff CNC:
"Mae cadw pellter cymdeithasol yn effeithio ar y ffordd y mae cwmnïau sy'n cyflenwi nwyddau a gwasanaethau yn gweithredu ac mae troseddwyr gwastraff yn manteisio ar hyn.
"Rydyn ni wedi gorfod addasu ein ffyrdd o weithio drwy ddatblygu atebion technolegol i gefnogi ein gwaith a sicrhau bod gweithredwyr gwastraff yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol.
"Bydd y dechnoleg hon yn sicrhau bod amgylchedd Cymru yn cael ei ddiogelu ar gyfer y bobl sy'n byw yma ac ar gyfer gweithredwyr gwastraff cyfreithlon sy'n cydymffurfio â'r rheolau ac yn gweithio mewn ffordd gyfrifol.
"Dylai'r rhai sy'n gobeithio manteisio ar y cyfyngiadau symud i gyflawni troseddau gwastraff ailfeddwl. Mae gennym y gallu a'r dechnoleg i barhau i ganfod a mynd ar drywydd y sawl sy'n diystyru'r gyfraith."
Mae'r math hwn o wyliadwriaeth eisoes ar waith yn ne-ddwyrain Cymru, lle mae CNC a Heddlu Gwent yn defnyddio dronau i ymchwilio i weithgarwch anghyfreithlon.
Meddai PC Matt Andrews, sef y swyddog sydd, fel rhan o dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gwent, yn ymwneud â CNC ac yn cynorthwyo tîm Gweithrediadau De-ddwyrain Cymru i daclo pob math o weithgarwch anghyfreithlon:
"Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae ein tîm gwastraff yn parhau i gyfathrebu'n agos â safleoedd gwastraff a ganiateir, ond rydyn ni hefyd wedi ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gadw llygad ar bethau ar lawr gwlad.
"Mae gwaith drôn wedi ein helpu i ymchwilio i weithgarwch anghyfreithlon mewn lleoliadau anghysbell, gan gadw at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol ar yr un pryd.
"Er enghraifft, gellir defnyddio'r delweddau i ganfod faint o dipio anghyfreithlon sy’n digwydd ar ddarn o dir a fyddai fel arfer yn gofyn cael dau o swyddogion gwastraff CNC i ymchwilio iddo’n gorfforol."
Gall y cyhoedd a busnesau helpu drwy roi gwybod am unrhyw weithgarwch gwastraff anghyfreithlon amheus ar ein llinell gymorth 0300 065 3000.