Datgan sychder yn ne-ddwyrain Cymru yn dilyn y cyfnod chwe mis sychaf ers bron i 50 mlynedd

Wrth i Gymru brofi cyfnod arall o dywydd poeth a sych, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod y trothwyon wedi'u cyrraedd i ysgogi statws sychder ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Rhannwyd y penderfyniad gyda chyfarfod o Grŵp Cyswllt Sychder Llywodraeth Cymru y prynhawn yma, ar ôl ystyried effaith pwysau parhaus y tymereddau uchel a'r diffyg glawiad ar yr ardal yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae gweddill Cymru’n dal i fod mewn statws cyfnod hir o dywydd sych, ond mae timau CNC yn dal i fonitro llif afonydd, lefelau dŵr daear ac effeithiau ar yr amgylchedd, tir, amaethyddiaeth a sectorau eraill yn fanwl.

Er bod cyflenwadau dŵr yfed cyhoeddus yn parhau i fod yn ddiogel, cynghorir pobl a busnesau i ddilyn cyngor Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, a defnyddio dŵr yn ddoeth yr haf hwn i helpu i leddfu'r pwysau ar yr amgylchedd yn ogystal â chyflenwadau dŵr.

Gyda'r rhagolygon tywydd sych yn parhau, mae CNC yn dal ati gyda’r gwaith monitro ac yn cymryd camau i leddfu'r pwysau ar yr amgylchedd, gan gydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill.

Dywedodd Rhian Thomas, Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy CNC:
“Mae’r tywydd a welwyd dros y gwanwyn a’r haf hwn wedi bod yn eithriadol, gyda Chymru’n cofnodi’r cyfnod chwe mis sychaf ers sychder 1976.
“Mae diffyg glaw sylweddol wedi effeithio ar yr amgylchedd, ac rydym yn derbyn adroddiadau am lif isel a gwelyau afonydd sych mewn rhai ardaloedd, lefelau dŵr daear isel yn ogystal ag adroddiadau am bysgod yn dioddef a gordyfiant algâu.
“Mae dalgylchoedd yn ne-ddwyrain Cymru wedi cael eu heffeithio’n benodol, gydag afonydd yn derbyn ychydig iawn o law yn ystod y misoedd diwethaf, ac afonydd Wysg a Gwy yn cofnodi tymereddau afonydd uchel yn gyson a allai fygwth poblogaethau pysgod.
“Wrth i’r ardal gyrraedd statws sychder, byddwn yn cynyddu ein camau gweithredu yn unol â Chynllun Sychder CNC.”

Mae effeithiau eraill y sychder yn cynnwys sychu cyflenwadau dŵr preifat mewn rhai ardaloedd, effeithiau ar reoli tir, plannu coed, mordwyo a hamdden a ffermwyr yn gorfod chwilio am gyflenwadau dŵr eraill a bwyd ategol i dda byw oherwydd llai o dwf glaswellt a cholli coed a blannwyd yn ddiweddar.

Mae’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan y symudiad i statws sychder yn cynnwys:

  • Gwy (Cymru)
  • Wysg
  • Y Cymoedd (Taf, Ebwy, Rhymni, Trelái, Llwyd a’r Rhondda)
  • Bro Morgannwg (Dawan a Thregatwg)

Er bod rhannau o Gymru wedi cael rhywfaint o seibiant o’r tywydd sych ym mis Mehefin, gwelwyd y tywydd poeth a sych yn dychwelyd ym mis Gorffennaf, gyda de-ddwyrain Cymru’n derbyn 53% o’r glawiad misol cyfartalog yn unig.

O safbwynt Cymru gyfan, y cyfnod rhwng mis Chwefror a Gorffennaf yw’r 16eg cyfnod sychaf mewn 190 mlynedd (Chwefror-Gorffennaf) - a’r sychaf ers 1976.

Hyd yn hyn eleni mae Cymru wedi derbyn 555mm o law (Ionawr i Orffennaf 2025), sydd bron mor sych â'r amodau yn 2022, lle cyhoeddwyd statws sychder ar Gymru gyfan erbyn mis Medi.

Felly mae llif y rhan fwyaf o afonydd ledled Cymru’n isel neu’n isel iawn, fel y lefelau dŵr daear.

Ychwanegodd Rhian:
“Ar ôl dechrau mor eithriadol o sych i’r flwyddyn, bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i afonydd, dyfroedd daear a phriddoedd adfer – hyd yn oed os byddwn yn dechrau gweld rhywfaint o law yn y rhagolygon.
“Er bod llawer o bobl yn mwynhau gwyliau’r haf, rydym yn annog pobl i fod yn ymwybodol o’u defnydd o ddŵr ac ystyried sut y gallant arbed dŵr gartref ac yn y gwaith. Gallwch ddod o hyd i'r cyngor diweddaraf ar wefan Waterwise.
“Rydym hefyd yn annog pobl a allai fod allan yn mwynhau’r amgylchedd i roi gwybod am unrhyw bryderon amgylcheddol sy’n dod i’r amlwg – fel pysgod mewn trafferthion, gwelyau afonydd sych neu lygredd – drwy ein ffurflen ddigwyddiadau neu drwy ffonio ein llinell gymorth digwyddiadau ar 03000 65 3000.”