Cwympo coed i gael gwared â choed llarwydd yn Nyffryn Ogwen

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau ar waith i gwympo a rheoli coed ym Mraichmelyn, Dyffryn Ogwen.

Bydd gwaith cynaeafu coed llarwydd a sbriws yn digwydd ar hyd y llwybr troed y tu ôl i Fraichmelyn, ger Bethesda.

Mae'r llarwydd mewn perygl o gael eu heintio â Phytophthora Ramorum, sef clefyd y llarwydd.

Mae arwynebedd y llarwydd ychydig dros hectar a hanner ac yn ystod y gwaith bydd CNC hefyd yn teneuo coed mewn ardal 10ha y tu ôl i dai cyfagos.

Drwy ddewis a dethol pa goed sy’n cael eu tynnu -coed nad ydynt wedi datblygu’n llwyddiannus, coed sydd wedi'u llethu a rhai sydd wedi'u llosgi - bydd yn bosibl gwneud lle i goed iachach barhau i ddatblygu.

“Bydd y gwaith cynaeafu yn rhoi ystyriaeth lawn i bresenoldeb unrhyw rywogaethau a warchodir a'u cynefin, yn ogystal ag unrhyw effeithiau arnynt.

Mae gwiwerod coch a beleod wedi cael eu gweld yn lleol dros y blynyddoedd felly byddwn yn gweithio y tu allan i'r tymor bridio, o fis Hydref tan ddiwedd mis Ionawr a bydd y gwaith paratoi yn dechrau ym mis Awst.

Ni fydd unrhyw waith cwympo na chludo coed yn digwydd ar benwythnosau nac yn ystod gwyliau cyhoeddus.

Meddai Kath McNulty, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:

“Yn ystod y gwaith hwn byddwn yn lleihau’r effaith ar y gymuned leol gymaint â phosibl.

"Ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel a gofynnwn i aelodau'r cyhoedd ufuddhau i unrhyw arwyddion sydd mewn lle yn ystod y gwaith.

“Mae coedwig Braichmelyn yn 237 hectar ac mae nifer o drigolion lleol yn dal i gofio’r coed yn cael eu plannu yn y 1970au.

"Hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad."

Bydd y pren a gynhyrchir yn ystod y gwaith hwn yn cael ei werthu drwy wefan gaffael Llywodraeth Cymru, Gwerthu i Gymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r gwaith hwn, cysylltwch â Thîm Gweithrediadau Coedwig Gogledd-orllewin Cymru ar 0300 065 3735 neu e-bostiwch gweithrediadaucoedwigoeddgogleddorllewin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk