Cymuned yn y Cymoedd i lunio dyfodol coedwig gyhoeddus
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda Croeso i'n Coedwig, partneriaeth gymunedol yn y Cymoedd, ar reoli ardal fawr o goedwigaeth gyhoeddus o amgylch Treherbert yn y dyfodol.
Roedd cynrychiolwyr o CNC a Croeso i'n Coedwig yng Nghwm Saerbren ar 5 Mai i ddathlu'r fenter cyfranogiad cymunedol, o'r enw Prosiect Skyline.
Nod Prosiect Skyline yw cynnwys pobl leol yn y broses o reoli eu tirwedd leol i ddarparu llefydd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol a chyfleoedd ar gyfer incwm a swyddi.
Mae cynllun rheoli coedwig hirdymor, “Gweledigaeth Coedwig y Dyfodol”, wedi'i gyd-ddylunio gan bobl Treherbert a CNC, wedi'i hwyluso gan Croeso i'n Coedwig, a sefydliadau cymunedol eraill. Fe'i cynlluniwyd i fod o fudd i natur, y gymuned leol ac ymwelwyr.
I ddechrau, bydd Croeso i'n Coedwig yn rheoli ardal o goetir Cwm Saerbren CNC trwy Gytundeb Rheoli Cymunedol ar gyfer gweithgareddau fel rheoli'r coed, creu a chynnal llwybrau troed, gan hefyd greu lleoedd ar gyfer cynnal gweithgareddau cymunedol ac addysgol.
Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys hyfforddiant i bobl i helpu i feithrin sgiliau a phrofiad o reoli coedwig, gan sicrhau bod safonau iechyd a diogelwch a rheolaeth amgylcheddol yn cael eu bodloni.
Dywedodd yr Athro Calvin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Ystadau Tir ar Fwrdd CNC:
“Rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Croeso i'n Coedwig a phobl Treherbert i gyflawni gweledigaeth Prosiect Skyline i wneud adnoddau naturiol lleol yn fwy defnyddiol a pherthnasol i gymunedau.
“Mae hwn yn brosiect arloesol sy'n cynnig cyfleoedd i'r gymuned wella'r economi leol drwy greu swyddi a datblygu sgiliau. Ac wrth wneud hynny, i wneud y coetir yn lle hyd yn oed yn well i bobl sy'n byw yn Nhreherbert, yn gweithio yno neu'n ymweld.
“Ein gwaith gyda'n gilydd ar hyn o bryd yw'r cam cyntaf tuag at Weledigaeth Coedwig y Dyfodol ehangach ar gyfer y coetir o amgylch Treherbert.
“Gyda Gweledigaeth Coedwig y Dyfodol a chytundeb rheoli ar waith, mae'r prosiect hwn yn lasbrint ar gyfer modelau rheoli cymunedol ar y tir sydd o dan ofal CNC.”
Dywedodd Ian Thomas o Croeso i’n Coedwig:
“Mae ein cymuned wedi bod yn galw ers amser maith am gael mwy o ran yn y dirwedd naturiol o gwmpas lle rydyn ni’n byw. Mae Treherbert a'n pentrefi cyfagos yn dapestri cyfoethog o bobl fedrus, entrepreneuraidd ac uchelgeisiol sy'n angerddol am eu tref enedigol.
“Mae'r holl bartïon dan sylw yn cydnabod y ffordd hir a ddaeth â ni yma a'r ymdrechion aruthrol gan bawb sydd wedi arwain at y sefyllfa gadarnhaol yr ydym ynddi heddiw: cymuned sy'n cydnabod dyletswyddau statudol CNC fel rheolwr tir, hyd yn oed reidrwydd masnachol planhigfeydd mewn argyfwng hinsawdd, gan hefyd feddu ar lais clir wrth gyd-lywio sut mae ein hasedau naturiol yn cael eu rheoli ar gyfer buddion lluosog, ar gyfer dyfodol cadarnhaol o ran yr hinsawdd a bioamrywiaeth, ac am genedlaethau i ddod.
“Ein dymuniad yw rhannu'r hyn a ddysgwyd gyda'n chwaer gymunedau ledled Cymru, i ymgorffori'r egwyddorion cyd-gynhyrchu hyn ac ymhen amser sicrhau cydnabyddiaeth ehangach ac atebolrwydd ffurfiol am werth cymdeithasol ar draws yr holl waith yr ydym yn ei wneud ar y cyd.”