Gwirfoddolwr yn nodi 20 mlynedd o fesur glawiad ar Gadair Idris
Mae gwirfoddolwr sydd wedi mentro allan bron bob mis am ddau ddegawd i fesur glawiad yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris wedi gwneud ei ddyletswyddau gwerthfawr am y tro olaf.
Ddydd Sadwrn 30 Ebrill, aeth Phil Thomas, sy’n dod o Benrhyndeudraeth, i Gadair Idris i fesur glawiad mis Ebrill – dyletswydd y mae wedi’i gyflawni fel gwirfoddolwr am 20 mlynedd yn union.
Roedd mesurydd glaw Cadair Idris, sef potel gopr, yn arfer bod yn rhan o rwydwaith y Swyddfa Dywydd ac mae’n ddigon mawr i ddal gwerth mis o lawiad.
Mae'r data a gesglir gan Mr Thomas yn cyfrannu'n sylweddol at gorff o wybodaeth sy'n helpu i nodi newidiadau mewn patrymau tywydd yn yr ardal. Mae mesur dyddodiad yn bwysig ar gyfer rhagolygon y tywydd ac fel arwydd o faint o ddŵr ffres sy'n rhedeg oddi ar y mynydd. Mae hefyd yn defnyddio ei ymweliadau i roi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am unrhyw faterion sydd angen sylw, fel sbwriel, materion pori neu erydiad ar lwybrau.
Mae Paul Williams, sy’n Uwch Swyddog Rheoli Tir yn y Gogledd Orllewin gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi gweithio’n agos gyda Phil dros y blynyddoedd. Meddai Paul:
“Mae cyfraniad Phil wedi bod yn allweddol. Fuasen ni ddim fod wedi gallu parhau â’r gwaith mesur heb ei ymroddiad misol.
“Mae Cadair Idris yn cael dros 200 diwrnod o lawiad y flwyddyn. Dyma un o’r rhesymau pam mae’r ceunant a’r coetir ar odre’r Warchodfa’n cefnogi’r fath amrywiaeth hynod o fwsoglau, y mae rhai ohonynt yn brin iawn.
“Mae’r cofnodion yn dangos bod mwy o law yn syrthio fan hyn bob blwyddyn rŵan o gymharu â’r 1980au. Yna, mae hyn yn ffurfio rhan fach ond hanfodol o’r dystiolaeth ehangach dros newid tymor hir yn yr hinsawdd.
“Mae pawb yn CNC yn dymuno’n dda i Phil yn ei ymddeoliad a dwi’n gobeithio’i weld ar y warchodfa eto yn y dyfodol agos, neu gael sgwrs dros baned yn Nhŷ Te Cadair.”
Meddai Phil Thomas:
“Dwi wedi bod yn ddyn hapus iawn yn mentro allan bob mis. Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris nid yn unig yn un o’r gwarchodfeydd natur gorau yng Nghymru, ond yn y DU gyfan. Mae wedi bod yn fraint ac yn fendith.”
I ddysgu mwy am gyfleoedd gwirfoddoli yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ewch i’n tudalen Lleoliadau yma.