Ymgynghoriad cyhoeddus 10 wythnos CNC ar Barc Cenedlaethol newydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd pobl i rannu eu barn ar y drafft o’r map ffiniau (y cyfeirir ato fel Map yr Ardal Ymgeisiol) ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig yng Nghymru.
Bydd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, sy’n cynnwys cyfres o ddigwyddiadau galw heibio i’r cyhoedd, digwyddiadau ar-lein a digwyddiadau penodol i randdeiliaid, yn rhedeg o ddydd Llun 7 Hydref tan 23:59 ddydd Llun 16 Rhagfyr 2024.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CNC i asesu’r dystiolaeth a’r achos dros gael Parc Cenedlaethol newydd ac i wneud argymhelliad. Cafodd ardal astudiaeth (y cyfeirir ati fel yr Ardal Chwilio), sy’n seiliedig ar ‘Dirwedd Genedlaethol’ Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ei nodi a’i rhannu yn ystod cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd ar ddiwedd 2023. Yn dilyn hyn a chyfnod o hel tystiolaeth, drwy gydol misoedd yr hydref a’r gaeaf bydd CNC yn ymgynghori â’r cyhoedd ar y cynnig sy’n dod i’r amlwg.
Mae holiadur i gasglu adborth bellach yn fyw ar wefan y prosiect.
Neu gallwch lenwi copi papur o’r holiadur (gallwch ei godi mewn digwyddiad galw heibio) a’i anfon yn ôl atom drwy’r Rhadbost.
Meddai Ash Pearce, Rheolwr Rhaglen yn nhîm Rhaglen Tirweddau Dynodedig CNC:
“Er mwyn sefydlu Parc Cenedlaethol newydd mae’n rhaid i CNC fod yn hyderus y bydd yn rheoli risgiau a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, er mwyn gwella byd natur, pobl a chymunedau.
"Rydyn ni wedi casglu rhagor o dystiolaeth yn 2024 ac mae’r map rydyn ni’n ei rannu nawr wedi newid i adlewyrchu hyn. Bellach mae gennym ddarlun llawer cliriach o’r risgiau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â chreu Parc Cenedlaethol newydd, ond hefyd y risgiau sy’n gysylltiedig â pheidio â mynd i’r afael â’r ffactorau sydd eisoes ar waith, er enghraifft pwysau gan ymwelwyr, tai, dirywiad byd natur a newid hinsawdd.
"Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan unrhyw un sydd wedi’i effeithio neu sydd â diddordeb, rydym am wrando ar yr amrywiaeth o safbwyntiau, ac yn arbennig o awyddus i dderbyn unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth newydd sy’n ymwneud â’r cynnig cyn i CNC ddod i’w gasgliad. Rydym yn annog pawb i lenwi ein holiadur ar ôl gweld crynodeb o’r dystiolaeth.”
Bydd y digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn gyfle i ddysgu mwy am y prosiect a’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, i ofyn cwestiynau i’r tîm a rhannu adborth ar y drafft o’r map ffiniau y cyfeirir ato fel Map yr Ardal Ymgeisiol.
Anogir pobl naill ai i alw heibio mewn digwyddiad wyneb-yn-wyneb neu anfon e-bost at dîm y prosiect yn rhaglen.tirweddau.dynodedig@cyfoethnaturiol.cymru i gofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein. Dim ond un digwyddiad fydd angen i bobl fynd iddo gan y bydd yr wybodaeth a rennir yr un fath ar gyfer pob digwyddiad.
Digwyddiadau galw heibio i’r cyhoedd
Dyddiad | Amser | Lleoliad |
Dydd Iau, 10 Hydref | 3pm – 7pm | Canolfan Gymunedol Parkfields, Llwyn Onn, Yr Wyddgrug CH7 1TB |
Dydd Mercher, 16 Hydref | 1pm – 7pm | Canolfan Ceiriog, Ffordd Newydd, Glyn Ceiriog, Llangollen LL20 7HE |
Dydd Llun, 21 Hydref | 3pm – 7pm | Neuadd Bentref Llanrhaeadr, Back Chapel Street, Llanrhaeadr ym Mochnant SY10 0JY |
Dydd Sadwrn, 26 Hydref | 10.30am – 4.30pm | Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug CH7 5LH |
Dydd Gwener, 8 Tachwedd | 3pm – 7pm | Neuadd Goffa Wrecsam, Bodhyfryd, Wrecsam LL12 7AG |
Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd | 10am – 4pm | Pwyllgor Institiwt Cyhoeddus, Park View/Stryd Fawr, Llanfyllin SY22 5AA |
Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd | 10am – 4pm | Canolfan Gymunedol Neuadd y Brenin, Rhodfa’r Brenin, Prestatyn LL19 9AA |
Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr | 3pm – 7pm | Canolfan Cowshacc (1af Clives Own Welshpool Scout Headquarters & Community Centre), Stryd Aberriw, Y Trallwng SY21 7TE |
Dydd Mercher, 4 Rhagfyr | 3pm – 7pm | Canolfan Ni, Ffordd Llundain, Corwen, Sir Ddinbych LL21 0DP |
Dydd Mawrth, 10 Ragafyr | 3pm – 7pm | Neuadd y Dref Llangollen, Stryd y Castell, Llangollen LL20 8NU |
Digwyddiadau cyhoeddus ar-lein
Dyddiad | Amser | Lleoliad |
Dydd Llun, 14 Hydref | 6pm – 7:30pm | Microsoft Teams |
Dydd Mawrth, 12 Tachwedd | 6pm – 7:30pm | |
Dydd Iau, 12 Rhagfyr | 6pm – 7:30pm |
Digwyddiadau grŵp wedi’u targedu
Dyddiad | Amser | Cynulleidfa darged | Lleoliad |
Dydd Llun, 7 Hydref | 6pm – 7.30pm | Aelodau Etholedig | Microsoft Teams |
Dydd Iau, 24 Hydref | 6pm – 7.30pm | Grwpiau Hamdden a Mynediad | |
Dydd Mercher, 6 Tachwedd | 2pm – 3.30pm | Grwpiau Amgylchedd a Threftadaeth | |
Dydd Llun, 18 Tachwedd | 2pm – 3.30pm | Sector Ynni Adnewyddadwy | |
Dydd Mercher, 20 Tachwedd | 3pm – 7pm | Sector Amaethyddol a Thirfeddianwyr | Coleg Llysfasi, Ffordd Rhuthun, Llysfasi, Rhuthun LL15 2LB |
Dydd Llun, 25 Tachwedd | 2pm – 3.30pm | Cyfleustodau | Microsoft Teams |
Dydd Mercher, 27 Tachwedd | 6pm – 7.30pm | Busnesau a Thwristiaeth |
I gael gwybod mwy ewch i wefan ein prosiect. Bydd yr holl adnoddau ymgynghori ar gael ar wefan y prosiect o 7 Hydref 2024 ymlaen.